Penodi pennaeth newydd i Ysgol Penweddig, Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ysgol PenweddigFfynhonnell y llun, Google

Mae Ysgol Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth wedi penodi pennaeth parhaol.

Bydd Dr Rhodri Thomas yn cymryd lle Gwenallt Llwyd Ifan - wnaeth ymddeol ym mis Awst 2018 - fel pennaeth newydd yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae Dr Thomas yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Glantaf, Caerdydd.

Mae'r swydd wedi cael ei hysbysebu bedair gwaith ers 2018 ac yn y cyfamser mae'r ysgol wedi syrthio i'r categori oren am y tro cyntaf.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion yn 2018 fod yr angen i hysbysebu'r swydd fwy nag unwaith yn "arwydd arall o'r anawsterau recriwtio i swyddi arweinyddol o fewn ysgolion yn gyffredinol, ond yn enwedig mewn awdurdodau gwledig".

Mewn llythyr at rieni disgyblion yr ysgol, dywedodd cadeirydd y corff llywodraethol, Peter Lord eu bod yn edrych ymlaen at groesawu Dr Thomas i'r ysgol "maes o law".