Methu â phenodi pennaeth i Ysgol Penweddig

  • Cyhoeddwyd
Ysgol PenweddigFfynhonnell y llun, Google

Mae un o'r ysgolion uwchradd Cymraeg amlycaf wedi methu â phenodi pennaeth newydd, er bod y swydd wedi cael ei hysbysebu ddwywaith.

Mae Ysgol Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth yn chwilio am bennaeth newydd ar ôl i'r pennaeth cyfredol, Gwenallt Llwyd Ifan gyhoeddi ei fod yn ymddeol ddiwedd Awst 2018.

Mewn ebost at rieni, dywedodd cadeirydd y corff llywodraethol, Mark Rees, y bydd y dirprwy bennaeth yn camu i'r adwy dros dro "tra ein bod yn parhau gyda'r broses o benodi Pennaeth parhaol".

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod hyn yn "arwydd arall o'r anawsterau recriwtio i swyddi arweinyddol o fewn ysgolion yn gyffredinol, ond yn enwedig mewn awdurdodau gwledig".

Brynhawn dydd Mawrth cafodd rhieni disgyblion Ysgol Penweddig e-bost yn esbonio'r sefyllfa.

Dywedodd Mr Rees: "Yn dilyn proses rhestr fer fanwl, ac yn unol â'r meini prawf dethol grymus a fabwysiadwyd gan y Corff Llywodraethol, cytunwyd i ohirio'r broses o benodi Pennaeth parhaol.

"Fel trefniant dros dro, mae'r corff llywodraethol yn hapus iawn bod Ms Rhian Bowen Morgan ein Dirprwy Bennaeth cyfredol wedi cytuno i fod yn Bennaeth Gweithredol o Fedi 2018.

"Mae gan Ms Bowen Morgan gefnogaeth lawn y Corff Llywodraethol, staff yr ysgol a'r AALl yn ei rôl fel Pennaeth Gweithredol tra ein bod yn parhau gyda'r proses o benodi Pennaeth parhaol.

Her mewn ardaloedd gwledig

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: "Gall y Cyngor gadarnhau nad yw Ysgol Penweddig wedi llwyddo i benodi pennaeth newydd ar gyfer Medi 2018 a bydd y dirprwy bennaeth presennol, Ms Rhian Morgan, yn gweithredu fel pennaeth dros dro am flwyddyn.

"Mae hyn yn arwydd arall o'r anawsterau recriwtio i swyddi arweinyddol o fewn ysgolion yn gyffredinol", meddai'r datganiad, "ond yn enwedig mewn awdurdodau gwledig. "

"Mi fydd y Cyngor yn cefnogi Ms Morgan yn ei rôl ac yn cefnogi'r Corff Llywodraethol wrth iddynt fynd ati i benodi yn ystod y flwyddyn academaidd 2018-19.

Pan ofynnodd BBC Cymru Fyw a fyddai'r awdurdod yn cael cymorth sefydliad neu asiantaeth er mwyn dod o hyd i ymgeiswyr addas, dywedodd yr awdurdod nad ydyn nhw "ar hyn o bryd wedi trafod defnyddio asiant allanol".

Ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd Malachi Edwards o undeb prifathrawon NAHT Cymru bod recriwtio arweinwyr "yn her ymhobman, ac nid jest yng nghefn gwlad".

"Mae ffigyrau yn dangos bod 'na fwy o athrawon sy'n dal cymhwyster arweinyddiaeth nac sy'n bennaethiaid, sy'n golygu bod rhai arweinwyr yn penderfynu ar ôl cael y gradd i beidio mynd ymhellach", meddai.

"Pam 'da ni'n gofyn pam nad yw arweinwyr sy'n dal y cymhwyster ishe'r swydd ma nhw'n dweud bod 'na atebolrwydd, bod disgwyliadau'n uchel, gofynion a chyfrioldeb mawr. Ac wrth gwrs mae llawer o weinyddu, diffyg cyd-bwysedd bywyd/gwaith.

Un o'r swyddi gorau

"Ond hefyd mae'r her yna i gyflawni a gwella canlyniadau tra mae llai o gyllid ar gael i arweinwyr, yn enwedig ar hyn o bryd, a gwneud gwahaniaeth, ac hefyd mae llai o gymorth gan awdurdodau sydd o dan bwysau. Felly mae 'na gyfuniad o bethau gwahanol."

Yn ôl Mr Edwards, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna broblem, a bod sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn ceisio ymdrîn â rhai o'r heriau yma.

"Un o brif nodau (yr academi) yw i roi darpariaeth, cymorth, hyfforddiant, a mentora pobl yn gynnar er mwyn trio gwneud y swydd yn fwy deniadol ac i'w paratoi ar gyfer y swydd.

"Mae yn swydd anodd, ond mae aelodau sydd yn y swydd yn dweud ei fod yn un o'r swyddi gorau sydd 'na."