Cyngor i fwrw ymlaen i werthu cyn-gartref gofal
- Cyhoeddwyd
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda'i fwriad i geisio gwerthu safle cyn-gartref gofal yn Aberystwyth ar gyfer tai cymdeithasol.
Ddechrau'r wythnos roedd un o bwyllgorau craffu'r cyngor wedi argymell y dylai'r Cabinet ohirio'r gwerthiant am chwe mis ac ailystyried dyfodol cyn-gartref Bodlondeb.
Roedd nifer o aelodau'r Pwyllgor Craffu Eiddo Corfforaethol wedi galw ar y Cabinet i feddwl eto ynglŷn â Bodlondeb ac ystyried anghenion gofal nyrsio yng Ngheredigion, yn enwedig i gleifion dementia.
Dywed Fforwm Gofal Henoed Gogledd Ceredigion - a gafodd ei ffurfio ar ôl i Bodlondeb gau yn 2018 - fod mwy na 30 o bobl o Ceredigion wedi gorfod gadael y sir er mwyn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.
Awgrym i adnewyddu
Dywedodd aelodau'r pwyllgor craffu hefyd y byddai oedi'r gwerthiant yn gyfle i ystyried a allai'r adeilad fod o ddefnydd yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol.
Roedd rhai o'r farn y gallai gael ei adnewyddu er mwyn cynnig gwelyau ar gyfer cleifion sydd mewn ysbytai ar hyn o bryd.
Ond yn ei gyfarfod ddydd Mawrth penderfynodd Cabinet y cyngor na fyddai'n cefnogi argymhelliad y pwyllgor craffu, ac y bydd nawr yn gweithredu'r penderfyniad gwreiddiol i werthu'r adeilad i landlord cymdeithasol cofrestredig.
Gobaith y Cabinet yw gwerthu'r adeilad i landlord cymdeithasol o fewn tri mis.
Os nad yw hynny'n llwyddo fe fydd safle Bodlondeb yn cael ei roi ar y farchnad agored heb nodi unrhyw ddefnydd penodol.
Ymgais i ailddefnyddio'n 'aflwyddiannus'
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans - yr aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Mae'r Cyngor wedi mynd ati i geisio ailddefnyddio'r cartref gofal yn briodol dros gyfnod hir o amser.
"Ar y dechrau, ymgymerodd y Cyngor ag ymarfer caffael i nodi darparwr rhwng 2015 a 2017 ac ers 2018 I geisio gwerthu'r eiddo am ddefnydd a ffefrir.
"Mae'r ddau ddull wedi bod yn aflwyddiannus. Mae bellach yn bryd ystyried opsiynau eraill ar gyfer gwaredu'r ased hwn a denu buddsoddiad yn yr eiddo."
Ychwanegodd Cynghorydd Evans y bydd arian o'r gwerthiant yn mynd at gefnogi gwasanaeth sy'n darparu gofal mewn mannau eraill yn y sir.
Bydd y cyngor yn parhau i drafod opsiynau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn darparu gwell darpariaeth gofal i'r rheini sy'n eiddil eu meddwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2020