Rhyddhau cyfarpar diogelwch ar gyfer staff iechyd

  • Cyhoeddwyd
PPEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cadarnhau cyfarpar diogelwch personol 'PPE' o'r stôr pandemig wrth gefn yn cael eu rhyddhau i ddiogelu gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol rheng flaen.

Bydd yr offer yn cael ei roi i weithwyr sy'n delio â chleifion sydd wedi eu heintio, neu sydd dan amheuaeth o fod â Covid-19.

Mae'r cyfarpar yn cynnwys masgiau wynen, menig, ffedogau ac anadlyddion, a bydd yna gyflenwadau ychwanegol hefyd ar gyfer meddygon teulu.

Daeth cadarnhad ddydd Mercher bod pum person yn rhagor wedi marw ar ôl cael prawf Covid-19 positif, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 22.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru cafodd 150 o achosion coronafeirws newydd eu cofnodi ers dydd Mawrth, sy'n gwneud cyfanswm o 628, ond mae'r gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid cyfyngu'r cyfarfar diogelwch personol i staff rheng flaen, medd Vaughan Gething

Wrth gyhoeddi'r manylion, fe bwysleisiodd Mr Gething angen i ddilyn canllawiau penodol i sicrhau'r defnydd gorau o'r cyfarpar.

Nod y cam yw mynd i'r afael â'r pwysau sylweddol yn ddiweddar ar drefniadau cyflenwi rheolaidd.

"Mae'r amserlen ail-gyflenwi mewn perthynas â rhai o'n Cyfarpar Diogelu Personol yn ansicr," meddai.

"Felly, rhaid inni ddefnyddio'r stoc sydd gennym yn effeithlon ac yn briodol nes bod ailgyflenwadau yn dod yn fwy sicr."

Mae cyflenwadau cyfarpar diogelwch personol eisoes wedi eu dosbarthu i'r 715 o fferyllfeydd yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Yn y gynhadledd newyddion ddyddiol, dywedodd Mr Gething ei fod yn ceisio "drwy'r amser" i geisio cynyddu'r nifer o awyryddion (ventilators) sydd ar gael ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Mae yna dros 700 ohonyn nhw "ar gael yn gorfforol" ar hyn o bryd ac mae potensial i sicrhau 1,000 yn rhagor yn fuan.

Mae bron i 300 o'r rheiny eisoes wedi eu harchebu, a'r 700 yn weddill yn rhan o'r trefniadau ar draws y DU.

Mae'r awyryddion yn pwmpio ocsigen i'r ysgyfaint a thynnu carbon deuocsid o'r corff pan fo cleifion yn rhy wael i anadlu heb gymorth.