Apêl i fferyllfeydd beidio â chodi ffi dosbarthu
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd yng Nghymru wedi galw ar i fferyllfeydd beidio â chodi ffi am ddosbarthu meddyginiaethau.
Daeth y rhybudd yn sgil adroddiadau bod Boots yn codi £5 am gynnig y gwasanaeth.
Wrth ateb cwestiynau mewn cynhadledd i'r wasg fore Mercher, dywedodd Vaughan Gething y gallai ffïoedd o'r fath orfodi pobl a ddylai fod yn aros yn eu cartref i fynd allan.
Galwodd ar i Boots ailystyried y polisi.
"Ni ddylai pobl fregus sydd wedi cael cyngor i aros gartref am o leiaf dri mis deimlo bod yn rhaid iddyn nhw adael eu cartref achos nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu am ffïoedd dosbarthu."
Dywedodd y byddai'n hapus i gysylltu â Boots heddiw i drafod y mater.
Yn ystod ei gynahdledd i'r wasg eglurodd Mr Gething hefyd fod offer diogelwch personol 'PPE' o'r stôr pandemig wrth gefn yn cael ei ryddhau.
Bydd yr offer yn cael ei roi i weithwyr iechyd rheng flaen a gweithwyr cymdeithasol sy'n delio â chleifion sydd wedi eu heintio, neu sydd dan amheuaeth o fod â Covid-19.
Bydd yna gyflenwadau ychwanegol hefyd ar gyfer meddygon teulu.
Ond fe wnaeth e gydnabod hefyd y byddai materion yn parhau i godi ynghylch argaeledd yr offer.
"Mae'r amserlen ail-gyflenwi mewn perthynas â rhai o'n Cyfarpar Diogelu Personol yn ansicr," meddai.
"Felly, rhaid inni ddefnyddio'r stoc sydd gennym yn effeithlon ac yn briodol nes bod ailgyflenwadau yn dod yn fwy sicr."
Ymateb cwmni Boots
Mewn datganiad dywed Boots UK eu bod eisoes yn hepgor y tâl dosbarthu i gleifion dros 70 oed a phobl sy'n dilyn y cyngor i hunan ynysu am eu bod â chyflyrau iechyd blaenorol.
"Mae ein fferyllwyr â hawl hefyd i hepgor ffioedd mewn argyfwng ac os nad oes unrhyw ffordd arall i glaf gael eu meddyginiaethau," meddai llefarydd.
"Rydym wedi gweld galw sylweddol am ein gwasanaethau gan gynnwys ein gwasanaethau danfon i'r cartref, felly rydym yn blaenoriaethu danfoniadau o'n siopau i'r ddau grŵp yma o bobl i sicrhau eu bod yn cael y meddyginiaethau maen nhw eu hangen gartref, yn ddi-dâl."
Mae'r cwmni'n apelio ar bobl i gynnig casglu presgripsiynau ar ran anwyliaid, cymdogion a chyfeillion, ac i geisio am wasanaeth i'r cartref os taw dyna'r unig ddewis.
Mae yna hefyd wasanaeth ar-lein sy'n galluogi unigolion i gael presgripsiynau rheolaidd trwy'r post yn ddi-dâl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020