Coronafeirws: Yr her sy'n wynebu banciau bwyd Cymru
- Cyhoeddwyd
Gyda phobl yn gorfod aros adre yn sgil coronafeirws, rhai wedi colli eu swyddi, a phlant ddim yn cael prydau yn yr ysgol, mae'r pwysau ar fanciau bwyd yn cynyddu pob dydd.
Mae rhai wedi gorfod cau am nad ydyn nhw'n gallu ymdopi â'r gofynion iechyd a diogelwch, neu'n cael trafferth cael gwirfoddolwyr - tra bod ardaloedd eraill yn gorfod agor mwy o ganolfannau i geisio ateb y galw.
Cymaint ydy'r galw am wasanaethau'r banciau bwyd ar Ynys Môn, maen nhw wedi gorfod agor canolfan newydd i ddosbarthu bwydydd i drigolion yr ynys.
Dywedodd Llio Rowlands, cydlynydd y ganolfan newydd yn Llangefni: "'Da ni wedi bod yn gweithio'n andros o galed dros y dyddiau diwetha' i 'neud yn siŵr bod hyn yn gweithio, ac i dynnu'r pwysau oddi ar y banciau bwyd yng Nghaergybi ac Amlwch.
"Mae'r pwysau ar y banciau bwyd yn cynyddu wrth i'r dyddiau fynd yn eu blaenau. Mae'n amser ansicr iawn i bawb.
"Dydy'r ganolfan yn Llangefni ddim fel banc bwyd cyffredin - pwrpas fa'ma ydy fel man dosbarthu. Allith neb ddod yma i 'nôl hamper bwyd. 'Da ni'n prepario'r hamperi i fynd allan i bobl Môn.
"'Da ni'n galw ar y cymunedau a phobl leol i roi gymaint o roddion a fedra' nhw. Mae gynnon ni hefyd dudalen GoFundMe.
"Mae 'di bod yn eitha' anodd i gynllunio am bod hi'n amser mor ansicr. Ond mae pawb 'di dod at ei gilydd, gymaint o wirfoddolwyr wedi gweithio'n galed, 'da ni wedi llwyddo'n barod i sefydlu hwn yn Llangefni."
Mae'r cyngor sir yn cydweithio gyda gwasanaeth Banciau Bwyd Môn, Cyngor ar Bopeth a Menter Môn ar y drefn newydd, ac mae rhedeg banc bwyd yn her newydd i rai.
"Mae 'na lot o gwmnïau'n dod aton ni'n dweud bod nhw'n fodlon darparu bwyd, cynhyrchu bwyd i'w ddosbarthu," meddai Dafydd Gruffydd, rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn.
"Ar hyn o bryd mae 'na lawer o waith casglu gwybodaeth - gweld pa fath o adnoddau sydd 'na, gweld be' ma' pobl yn fodlon gwneud.
"Ond mae 'na fylchau - er enghraifft, genna' i fwytai yn d'eud wrthon ni'u bod nhw'n fodlon paratoi bwyd, ond yr her wedyn ydy penderfynu sut 'da ni'n cael y bwyd yna o'r bwytai i'r bobl.
"Mae'n broblem 'da ni'n ceisio ei datrys ar hyn o bryd."
Pam fod rhai yn cau?
O Fôn i Ben Llŷn, lle mae Banc Bwyd Pwllheli wedi gorfod cau am y tro am fod yr heriau'n ormod.
Yn ôl Andrew Jones, Offeiriad Eglwys Pwllheli ac un o'r tîm sy'n gyfrifol am y banc bwyd, roedd nifer o resymau dros y penderfyniad: "Dim ond tair eitem o bethau hanfodol ma' nhw'n gwerthu yn y siopau rŵan oherwydd y cyfyngiadau newydd, felly mae'r broses o brynu'r nwyddau wedi mynd yn gymhleth iawn.
"Yr ail beth, a dwi'n cytuno'n llwyr hefo hyn, ma'r safonau glendid yn mynd yn uwch ac uwch. Mae 'na bryder os fedra' ni ddal fyny efo'r safonau hynny.
"Mae oedran hefyd yn bwynt pwysig - mae ganddon ni wirfoddolwyr dros eu 70au a'u teuluoedd yn awyddus iddyn nhw fod yn ofalus iawn, iawn.
"Mater dros dro yn unig ydy hwn a 'da ni'n gobeithio gallu ailagor maes o law. Ac oherwydd bod ganddon ni lot fawr o fwyd ar ôl, 'da ni 'di penodi dau o'r eglwys i sicrhau pan bod 'na ofynion i'r cyngor, bod y ddau swyddog yn mynd i allu sicrhau bod y bwyd sy' ar gael yn mynd i le da."
Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n gyfrifol am nifer helaeth y banciau bwyd yng Nghymru, diogelwch unrhyw rai sy'n defnyddio'r banciau ydy'r flaenoriaeth.
Mewn datganiad, dywedon nhw: "Bydd Ymddiriedolaeth Trussell yn parhau ar agor i gefnogi banciau bwyd gyda pha bynnag benderfyniad anodd maen nhw'n ei wneud.
"Os yw banc bwyd yn teimlo eu bod yn gallu parhau i weithredu yn unol â chanllawiau'r llywodraeth a gyda chefnogaeth eu gwirfoddolwyr a'u cymuned leol, byddwn yn gwneud popeth posib i'w cefnogi.
"Os yw banc bwyd yn teimlo na allen nhw aros ar agor, byddwn yn edrych ar sut allwn ni gael bwyd brys i bobl yn yr ardal honno sydd heb ddigon o fwyd, a hynny mewn ffordd ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020