Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ers i'r achos cyntaf o coronafeirws gael ei gadarnhau yng Nghymru ddiwedd mis Chwefror, mae ymlediad yr haint wedi dechrau cael effaith cynyddol ar fywydau pobl.
Dros y misoedd diwethaf mae mwy a mwy o ddigwyddiadau wedi'u canslo, ac fe wnaeth y llywodraeth ofyn i bobl adael eu cartrefi pan fo hynny'n hanfodol yn unig.
Erbyn hyn mae'n ymddangos bod Cymru wedi pasio'r gwaethaf, gyda Llywodraeth Cymru'n dechrau'r broses o lacio'r cyfyngiadau.
Dyma amserlen y datblygiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19 hyd yma, gan gynnwys y twf cynyddol yn nifer yr achosion yng Nghymru.
28 Chwefror
Prif swyddog meddygol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cadarnhau'r achos cyntaf o coronafeirws yn y wlad. Roedd y claf, o Abertawe, wedi teithio yn ôl o ogledd Yr Eidal.
5 Mawrth
Ail achos o coronafeirws yn cael ei gadarnhau yng Nghymru yn ardal Caerdydd.
7 Mawrth
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn lansio gwasanaeth ar-lein newydd er mwyn helpu pobl i asesu symptomau coronafeirws.
9 Mawrth
Gêm rhwng merched Cymru a'r Alban wedi ei gohirio ar ôl i un o garfan Yr Alban brofi'n bositif am coronafeirws.
10 Mawrth
Rhybudd gan Brif Weinidog Cymru y gallai effaith coronafeirws gael ei deimlo "dros nifer o wythnosau", ac y gallai'r "sefyllfa waethaf" weld hyd at 80% o boblogaeth Cymru gael y feirws.
Naw achos arall - y nifer fwyaf i'w gyhoeddi hyd yma - gyda'r cyfanswm yng Nghymru bellach yn 15.
Gweithwyr mewn canolfan alwadau Sky yng Nghaerdydd yn cael eu hanfon adref wedi i'r cwmni ddweud bod aelod o staff â coronafeirws.
11 Mawrth
Pedwar achos arall o coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm yma i 19.
Heddlu De Cymru yn cadarnhau fod heddwas sydd yn gweithio ym Merthyr Tudful wedi derbyn diagnosis positif. Yn gynharach yn y dydd fe gadarnhaodd rheolwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yng Nghasnewydd bod un o'r gweithwyr yno wedi cael prawf positif.
Banc Lloegr yn cyhoeddi gostyngiad brys i gyfraddau llog o 0.75% i 0.25% - yn gyfartal â'r lefel isaf o fenthyca erioed.
12 Mawrth
Canslo gêm gyfeillgar rhwng Cymru a'r UDA yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 30 Mawrth.
Chwe achos newydd o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru, gan gynnwys yr achos cyntaf yn y gogledd.
Cystadleuaeth y Pro14 wedi cael ei gohirio am gyfnod amhenodol.
13 Mawrth
Pryder ynglŷn â'r effaith ar arholiadau TGAU a Lefel A wrth i ysgolion ddechrau paratoi ar gyfer y posibilrwydd o orfod cau.
13 achos newydd o coronafeirws - y cyfanswm yma yn codi i 38.
Undeb Rygbi Cymru yn cadarnhau fod y gêm rhwng Cymru a'r Alban ar 14 Mawrth wedi'i gohirio.
14 Mawrth
Cadarnhau 22 achos newydd o'r coronafeirws, gan gynnwys 10 person arall yn Abertawe.
Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi y bydd gemau ar bob lefel yn cael eu gohirio am o leiaf pythefnos.
15 Mawrth
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud na ddylai pobl ffonio gwasanaeth 111 fel y cam cyntaf bellach os ydyn nhw'n amau fod ganddyn nhw coronafeirws.
16 Mawrth
Cadarnhad bod y claf cyntaf o Gymru wedi marw ar ôl cael y clefyd Covid-19.
Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gohirio tan 2021 - allai olygu "ergyd ariannol o bron i £4m" i'r mudiad.
Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn galw ar bobl i osgoi unrhyw gysylltiad diangen ag eraill i atal lledaenu'r feirws.
17 Mawrth
Cadarnhau bod ail glaf o Gymru wedi marw ar ôl cael prawf Covid-19 positif.
Pencampwriaeth Euro 2020 yn cael ei ohirio tan haf 2021. Roedd gêm olaf Cymru i fod yn Rhufain yn erbyn Yr Eidal.
Y Swyddfa Dramor yn dweud wrth ddinasyddion Prydain osgoi teithio dramor am o leiaf 30 diwrnod os nad yw'n angenrheidiol.
18 Mawrth
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau ar 20 Mawrth, a bydd arholiadau TGAU a Safon Uwch ddim yn cael eu cynnal yn yr haf.
Camau i brofi gweithwyr iechyd hanfodol fel rhan o gynlluniau sy'n rhagdybio fod yr haint "yn lledu'n eang yn y gymuned".
Rhybudd y gallai fod yn anodd cynnal angladdau unigol pe bai nifer y marwolaethau yn cyrraedd lefel y "senario gwaethaf".
19 Mawrth
Llywodraeth Cymru i gael pwerau "llym" i ynysu a chadw unigolion os oes angen er mwyn atal ymlediad coronafeirws.
Elusennau'n rhybuddio na fyddan nhw'n gallu darparu rhai o'u gwasanaethau am y tro oherwydd yr haint.
Cyhoeddi bron i £1.4bn o gymorth i fusnesau er mwyn eu helpu i ddygymod â'r cyfnod ansicr.
20 Mawrth
Cadarnhad fod trydydd claf wedi marw ar ôl dioddef o haint Covid-19.
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi bod tafarndai, tai bwyta a bariau Cymru yn cau nos Wener, yn ogystal â chanolfannau hamdden, campfeydd, sinemâu, theatrau a siopau betio.
Cadarnhau pwy yw'r 'gweithwyr allweddol' fydd yn cael cymorth i barhau i fynd ati gyda'u swyddi.
22 Mawrth
Saith arall wedi marw yng Nghymru o achos haint Covid-19.
Galw ar ymwelwyr i gadw draw o barciau cenedlaethol a pharciau gwyliau wedi i ymwelwyr heidio i Gymru.
Her newydd yn wynebu banciau bwyd o achos yr argyfwng - wrth i nifer o wirfoddolwyr hŷn gadw draw.
23 Mawrth
Amserlenni newydd bellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwasanaethau bws a threnau ar hyd a lled Cymru.
70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" yn cael eu cynghori drwy lythyr i aros yn eu cartrefi am 12 i 16 wythnos.
24 Mawrth
Diwrnod cyntaf mesurau newydd yn gorfodi pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu nwyddau fferyllol, ymarfer corff unwaith y diwrnod, rhoi gofal iechyd neu weithio.
Unedau gofal critigol Cymru'n 45% llawn ar hyn o bryd, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Y Cynulliad yn cymeradwyo deddf newydd i daclo'r feirws.
25 Mawrth
Rhyddhau rhagor o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol rheng flaen.
Apêl ar i fferyllfeydd beidio â chodi ffi am ddosbarthu meddyginiaethau.
Gwyddonwyr o Gymru'n dadansoddi cod genetig Covid-19 er mwyn deall mwy am y modd mae'r feirws yn lledaenu.
26 Mawrth
Rhybudd y gallai rhai cleifion canser farw am na fydd gofal dwys ar gael iddyn nhw oherwydd coronafeirws.
741 o achosion a 28 o farwolaethau bellach wedi eu cadarnhau yng Nghymru, wrth i gyfarwyddwr bwrdd iechyd gymharu'r patrwm yng Ngwent i'r un yn yr Eidal.
27 Mawrth
Pryder nad yw pobl hŷn, anabl neu fregus yng Nghymru yn gallu cael blaenoriaeth wrth gael bwyd wedi'i gludo i'w cartrefi yn ystod yr argyfwng.
Rhybudd y bydd coronafeirws yn cael "effaith ddifrifol" ar bysgotwyr, gyda dim dim marchnad i'r cynnyrch maen nhw'n ei ddal.
Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi trefnu i ddefnyddio Stadiwm Principality fel ysbyty dros dro er mwyn taclo'r feirws.
28 Mawrth
Cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni profi, fyddai wedi caniatáu cynnal 5,000 o brofion Covid-19 yn ychwanegol bob dydd, wedi methu.
Heddluoedd yn stopio teithwyr ar rai o ffyrdd prysura' Cymru i sicrhau bod eu siwrne wir yn angenrheidiol.
FSB Cymru'n dweud bod diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn costio amser a busnes i gwmnïau.
29 Mawrth
Cymdeithas y BMA yn dweud bod meddygon mewn rhannau o Gymru yn gorfod prynu eu hoffer amddiffynnol personol (PPE) eu hunain.
Meddyg teulu o Wynedd yn dweud eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i baratoi ar gyfer trin cleifion Covid-19.
Annog teuluoedd i gael sgyrsiau am farwolaeth a thrafod eu dymuniadau petai nhw'n mynd yn ddifrifol wael.
30 Mawrth
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi y bydd Prifwyl Ceredigion 2020 yn cael ei gohirio am flwyddyn yn sgil yr argyfwng.
Datgelu pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ffred a Meinir Ffransis yn cyrraedd 'nôl adref i Gymru ar ôl bod yn gaeth ym Mheriw am bythefnos.
Rhai o weithwyr y gwasanaeth iechyd yn cael trafferth sicrhau gofal i blant ifanc am fod meithrinfeydd yn cau.
31 Mawrth
Gweinidog iechyd Cymru'n dweud y byddai'r cytundeb am fwy o brofion, wnaeth ddymchwel, "wedi gwneud gwahaniaeth cynnar".
Pryder ynglŷn â diffyg sgiliau petai ffermwyr yn cael eu taro'n wael gan coronafeirws.
Llywodraeth Cymru'n cyhuddo Tesco o "ymgyrch lobïo enfawr" yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi seibiant trethi busnes i'r cwmni.
1 Ebrill
Cymru'n cofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 mewn un diwrnod ers i'r feirws ddechrau ymledu, sef 29, sy'n dod â'r cyfanswm yma i 98.
Llywodraeth Cymru'n cadarnhau mai'r cwmni tu ôl i'r cytundeb methedig i ddarparu offer profi Covid-19 oedd cwmni fferyllol Roche o'r Swistir.
Meddygfa ym Maesteg yn ymddiheuro am yrru llythyr at gleifion gyda salwch angheuol gan ofyn iddyn nhw gwblhau ffurflen i "beidio adfywio".
Cyngor Celfyddydau Cymru'n cyhoeddi cronfa gwerth £7m i ddiogelu'r sector rhag effaith y pandemig.
2 Ebrill
Canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi i weithwyr iechyd a gofal ar ddefnyddio offer diogelu personol (PPE).
Galw am newid i daliadau Credyd Cynhwysol er mwyn rhoi arian ar frys i bobl sy'n colli gwaith yn sgil pandemig y coronafeirws.
Pryder y gallai canolfan Chapter yng Nghaerdydd gau yn barhaol yn sgil yr argyfwng.
3 Ebrill
Ffermwyr yn poeni y bydd eu teuluoedd yn cael eu heintio wrth i nifer cynyddol o bobl gerdded ar eu tir.
Elusen Achub y Plant yn dweud fod 56% o rieni yn poeni am effaith pandemig ar iechyd meddwl eu plant.
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dweud fod Cymru "ar y trywydd" i drechu coronafeirws.
4 Ebrill
Y Prif Weinidog a rhai o brif sefydliadau gogledd Cymru yn erfyn ar bobl i beidio gwneud teithiau diangen ac i ymwelwyr gadw draw.
5 Ebrill
Gweinidog iechyd Cymru'n dweud bod y gwasanaeth iechyd yn paratoi i ddyblu nifer y gwelyau sydd ar gael gydag ysbytai dros dro.
Rhybudd fod gwasanaethau iechyd sydd ddim yn gysylltiedig â Covid-19 hefyd yn wynebu amseroedd "heriol".
6 Ebrill
Apêl ar bobl i ddefnyddio ffynonellau dibynadwy rhag achosi pryder i eraill trwy rannu straeon ffug ar y cyfryngau cymdeithasol.
Pryder y bydd yna farwolaethau ymhlith merched sy'n byw gyda chymar treisgar yn sgil y gorchymyn i bobl aros yn eu cartrefi.
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd rhieni sydd mewn swyddi allweddol yn cael gofal plant am ddim ar gyfer plant o dan bump oed yn ystod yr argyfwng.
Gwleidyddion Cymru'n dymuno'n dda i Boris Johnson wedi iddo gael ei symud i uned gofal dwys mewn ysbyty yn Llundain gyda Covid-19.
7 Ebrill
Rheolau newydd yn dod i rym sy'n gorfodi cyflogwyr yng Nghymru i sicrhau "camau rhesymol" er mwyn cadw eu staff o leiaf ddau fetr i ffwrdd o'i gilydd.
Teyrngedau wedi eu rhoi i lawfeddyg calon blaenllaw yng Nghaerdydd - Jitendra Rathod - fu farw â coronafeirws.
Gweinidog Iechyd Cymru'n dweud ei fod yn gobeithio sefydlu "rhwydwaith" o ganolfannau prawf coronafeirws o fewn dyddiau.
8 Ebrill
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau coronafeirws gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf yn parhau tu hwnt i'r tair wythnos wreiddiol.
Comisiynydd Heddlu'n dweud na ddylai heddweision gael eu defnyddio fel "arolygwyr ffatri" i orfodi rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried stopio angladdau yn ystod yr argyfwng.
9 Ebrill
Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd y cyfyngiadau ar bobl yn gadael eu cartrefi yn parhau, ddiwrnod ar ôl cyhoeddiad tebyg gan Lywodraeth Cymru.
Perchennog cartrefi gofal yn dweud bod dau gwmni wedi gwrthod gwerthu offer gwarchod personol iddi, gan fod y deunydd wedi ei gadw ar gyfer cwsmeriaid yn Lloegr.
Heddlu'r Gogledd yn galw ar bobl i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod pobl wedi symud i dai haf.
10 Ebrill
Cyngor Sir Gâr yn cyrchu ei gyflenwadau ei hun o offer PPE oherwydd "diffyg tryloywder" cyflenwadau Llywodraeth Cymru.
Cronfa gafodd ei sefydlu i helpu elusennau Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws wedi codi £1m.
Yr heddlu'n addo targedu'r rhai sy'n torri'r rheolau'n ymwneud â theithio diangen dros y Pasg.
11 Ebrill
Plaid Cymru'n dweud bod rhaid i brofion coronafeirws yng Nghymru beidio â dod yn destun "loteri côd post".
Angen cynyddu maint y dirwyon sy'n cael eu rhoi i bobl sy'n parhau i deithio'n ddiangen, yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.
Undeb Unsain Cymru'n dweud fod prinder offer diogelwch personol yn "lladd" staff rheng flaen.
12 Ebrill
Y Prif Weinidog yn diolch i bobl am aros adref, ond yn rhybuddio bod "ffordd bell i fynd" cyn llacio'r cyfyngiadau.
Plaid Cymru'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael gafael ar offer PPE o dramor, yn hytrach na dibynnu ar Lywodraeth y DU.
Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn gadael yr ysbyty ar ôl cael ei drin am coronafeirws, ond ni fydd yn dychwelyd i'w waith am y tro.
13 Ebrill
Undebau'n dweud eu bod yn clywed "straeon arswydus" am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE ar gyfer gweithwyr y gwasanaeth iechyd.
Pobl oedd i fod i ddechrau swyddi newydd yn ystod y pandemig coronafeirws yn "disgyn trwy'r rhwyd" heb unrhyw gymorth, yn ôl undeb TUC Cymru.
14 Ebrill
Ffrae yn codi rhwng Llywodraeth Cymru ac un o gynghorau Cymru ynglŷn â'r niferoedd o bobl sy'n cael eu cyfeirio at ganolfannau ar gyfer profion Covid-19.
Galw am eglurder wrth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi bod mwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19 na'r hyn sy'n cael ei adrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyn-aelod seneddol Llafur yn lleisio ei phryderon am brofion coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn marwolaeth ei gŵr.
15 Ebrill
Y Coleg Nyrsio Brenhinol yn bryderus am effaith argyfwng coronafeirws ar iechyd meddwl staff y gwasanaeth iechyd.
Llywodraeth Cymru'n ymddiheuro ar ôl i 13,000 o lythyrau ar gyfer y bobl fwyaf bregus gael eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir.
Un o brif ymgynghorwyr meddygol Llywodraeth Cymru yn rhybuddio y gallai Covid-19 fod "yma i aros" ac y gallai'r gwaharddiad ar gynnal digwyddiadau barhau am fisoedd eto.
16 Ebrill
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn cadarnhau y bydd mesurau arbennig sy'n cyfyngu ar symudiadau pobl yn parhau mewn grym yng Nghymru am dair wythnos arall.
Ysbyty yng Nghymru sy'n treialu triniaeth plasma arbrofol ar gyfer cleifion coronafeirws wedi'i disgrifio fel "llygedyn o obaith".
Ehangu llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr rheng flaen GIG Cymru, wrth i'r pryder am eu hiechyd meddwl gynyddu.
17 Ebrill
Mark Drakeford yn dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i barhau gyda chyfyngiadau coronafeirws hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu llacio mewn rhannau eraill o'r DU.
Darparwyr gofal plant yn cael eu "hanwybyddu" yn yr ymateb i'r pandemig, yn ôl Mudiad Meithrin a chyrff eraill.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n dweud bod angen gweithredu ar frys er mwyn cefnogi pobl mewn cartrefi gofal.
18 Ebrill
Cynghorau lleol yn colli dros £30m y mis mewn incwm oherwydd coronafeirws, medd arweinydd Llywodraeth Leol Cymru.
Arolwg Coleg Brenhinol y Nyrsys yn dweud fod prinder offer diogelwch personol yn achosi "gofid anferth ac yn dwysau pryder" i nyrsys Cymru.
Ymgynghorydd meddygaeth aciwt yn rhannu ei brofiadau am coronafeirws, gan ddweud mai'r syndod mwyaf yw'r effaith ar gleifion ifanc.
19 Ebrill
575 o bobl wedi marw tra'n dioddef o'r feirws yng Nghymru bellach, gyda 7,270 wedi cael prawf positif.
Y Prif Weinidog yn cydnabod nad yw'r system i brofi am coronafeirws yng Nghymru wedi bod yn "ddigon da" hyd yma.
20 Ebrill
Prawf cyflym ar gyfer Covid-19 wedi'i ddatblygu gan wyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru.
Mark Drakeford yn dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn gosod targed newydd am brofion coronafeirws, ar ôl methu â chyrraedd y targed o 5,000 prawf y dydd erbyn canol Ebrill.
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n rhoi teyrnged i'r parafeddyg cyntaf i farw â coronafeirws yma - Gerallt Davies.
21 Ebrill
Coronafeirws wedi ymledu ar raddfa lai na'r disgwyl pan osodwyd targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, medd y Gweinidog Iechyd.
Y gwyddonydd Nobel, yr Athro Syr Martin Evans yn cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" ynglŷn â'u hymateb i'r pandemig.
Wrth i Dŷ'r Cyffredin ailgydio yn ei waith wedi'r Pasg, mae Plaid Cymru'n dweud y dylai pob dadl yno gael ei gynnal ar-lein dan yr amgylchiadau presennol.
22 Ebrill
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud y byddai wedi bod yn "anodd tu hwnt" i barhau tu hwnt i'r pandemig coronafeirws heb gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Merch dyn o Wynedd, fu farw gyda coronafeirws, yn erfyn ar bobl i beidio â theithio'n ddiangen er mwyn atal lledaenu'r haint.
Uwch feddygon o bob rhan o Gymru wedi galw mewn llythyr agored at y Prif Weinidog i wneud defnyddio ail gartrefi yn ystod y pandemig yn anghyfreithlon.
23 Ebrill
Pryder bod nyrsys dan hyfforddiant yn gorfod dewis rhwng gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws, neu wynebu saib yn eu hyfforddiant.
Meddygon yn rhybuddio rhieni i beidio â gohirio gofyn am gymorth meddygol i'w plant, wedi cwymp mawr yn nifer y plant sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty.
Adroddiad yn rhybuddio y gallai prifysgolion Cymru wynebu gostyngiad o bron i £100m yn eu hincwm o ganlyniad i'r pandemig.
24 Ebrill
Rhai o'r cyfyngiadau ar gyfer atal ymlediad Covid-19 yn cael eu cryfhau i "fynd i'r afael â heriau sy'n cael eu hwynebu mewn rhannau o'r wlad".
Daeth i'r amlwg fod 84 o bobl gyda coronafeirws wedi marw dan ofal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill, heb iddyn nhw gael eu cofnodi.
14 o breswylwyr oedrannus mewn cartref gofal yng Nghasnewydd wedi marw yn dioddef o symptomau Covid-19, ond yr un wedi cael prawf.
25 Ebrill
Pryder nad yw rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru ar deithio yn mynd yn ddigon pell i atal ymwelwyr.
774 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru bellach, gyda 8,900 wedi cael prawf positif.
26 Ebrill
Mark Drakeford yn dweud bod "rhaid i bobl wybod bod y cofnod o farwolaethau yn gwbl ddibynadwy", wedi i Betsi Cadwaladr dan-adrodd eu hachosion.
Darparwyr cartrefi gofal yn rhybuddio y gallai Cymru golli hanner eu cartrefi gofal o fewn blwyddyn oherwydd coronafeirws, os nad ydyn nhw'n cael cymorth.
27 Ebrill
System adrodd achosion gwahanol i weddill y GIG oedd yn gyfrifol am dan-adrodd marwolaethau Covid-19 ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.
Cyhoeddiad y bydd £60,000 yn cael ei dalu i deuluoedd gweithwyr iechyd a gofal sy'n marw mewn gwasanaeth o ganlyniad i Covid-19.
Yr heddlu'n dweud eu bod yn "anobeithio" ar ôl i fwy o ymwelwyr gael eu hanfon adref o'r gogledd dros benwythnos braf.
28 Ebrill
31 o farwolaethau coronafeirws ym Mwrdd Iechyd Hyweld Dda heb eu cynnwys yn ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru - yr ail fwrdd iechyd i dan-adrodd marwolaethau.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y marwolaethau yng Nghymru sy'n ymwneud â coronafeirws bellach dros 1,000.
Y gwrthbleidiau'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "torri addewidion" ar gannoedd o beiriannau anadlu coll, gyda llawer llai na'r hyn oed wedi'i addo wedi cyrraedd.
29 Ebrill
Cyhoeddiad na fydd Cymru'n dilyn Lloegr trwy ehangu profion mewn cartrefi gofal.
Cyn brif weinidog y DU, Gordon Brown i gynorthwyo gydag adferiad economaidd Cymru.
Galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn parhau i gael brechiadau angenrheidiol yn ystod y pandemig coronafeirws er mwyn atal heintiau eraill rhag lledaenu.
30 Ebrill
Prif Swyddog Meddygol Cymru'n galw am fwy o ddealltwriaeth am sut effaith mae coronafeirws yn ei gael ar wledydd eraill.
67% o'r cyhoedd yn credu bod y cyfyngiadau i reoli coronafeirws yn briodol, yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Pryder bod diffyg cyfarpar diogelwch PPE i weithwyr cymdeithasol ar y rheng flaen.
1 Mai
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn taliad ychwanegol o £500 i gydnabod ymdrechion y gweithlu.
Llywydd y Cynulliad yn dweud fod angen polisi arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig cyn ystyried llacio'r cyfyngiadau.
Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chanslo oherwydd y pandemig.
2 Mai
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod cyfanswm o 969 o bobl wedi marw ar ôl cael prawf positif am Covid-19.
Clybiau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru'n disgrifio'r argyfwng fel un "arbennig o heriol yn ariannol".
3 Mai
Undebau addysg yn datgan dryswch yn dilyn sylwadau'r Prif Weinidog Mark Drakeford am amserlen Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion.
Cwmni o dde Cymru'n hyderus y gall prawf gwrthgyrff coronafeirws dibynadwy fod yn barod ar gyfer ei gynhyrchu ar raddfa eang erbyn mis Mehefin.
4 Mai
Adroddiad ddaeth i law y BBC yn awgrymu y gallai fod angen tua 30,000 o brofion pob dydd pe bai galw ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i brofi pawb sydd â symptomau.
Un o brif ymgynghorwyr meddygol Llywodraeth Cymru yn dweud mai "gadael plant 'nôl i'r ysgol" fydd un o'r camau cyntaf wrth lacio'r cyfyngiadau.
Dyn fu'n agos at farw â coronafeirws yn dweud y bydd yn cymeradwyo staff y gwasanaeth iechyd pob dydd am weddill ei oes am achub ei fywyd.
5 Mai
Llywodraeth Cymru yn wfftio adroddiad oedd yn awgrymu y byddai Cymru angen 36,000 o brofion pob dydd i dracio ac olrhain coronafeirws.
Rhybudd gan brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd y bydd y feirws yn "dod yn ôl â dialedd" pe bai'r cyfyngiadau'n cael eu llacio'n rhy gyflym.
Arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud fod yr awdurdod wedi colli hyd at £9m o incwm hyd yma oherwydd yr argyfwng.
6 Mai
Llywodraeth Cymru'n dweud mai'r bwriad ydy symud "mor agos ag y gallwn ni" i weddill y DU wrth lacio cyfyngiadau coronafeirws.
Argyfwng coronafeirws am gostio £20m mewn costau ychwanegol i Gyngor Caerdydd rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn unig.
Y cyn-Aelod Seneddol Ann Clwyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â pharhau i orfodi'r henoed yn unig i hunan ynysu.
7 Mai
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn cadarnhau na fydd ysgolion Cymru'n ailagor ar 1 Mehefin.
Prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrth bwyllgor iechyd y Senedd ei bod "ddim yn gyfarwydd" â tharged Llywodraeth Cymru i gynnal 9,000 o brofion erbyn diwedd Ebrill.
8 Mai
Ymestyn y cyfnod clo yng Nghymru ond ymlacio'r rheolau ar ymarfer corff a llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a garddio yn cael caniatad i ailagor o 11 Mai.
Cyngor Sir Penfro'n dweud bod yr argyfwng coronafeirws wedi golygu gwariant ychwanegol o £11m i'r awdurdod.
9 Mai
Prif Weinidog Cymru'n cydnabod fod ymestyn y cyfyngiadau yn "ofyn mawr", a'i fod yn cael effaith ar les meddyliol pobl.
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd cymorth yn cael ei roi i'r ffermwyr llaeth sydd wedi cael eu taro waethaf gan yr argyfwng.
10 Mai
Prif Weinidog Cymru'n pwysleisio bod dim newid i'r cyngor yng Nghymru wedi i Boris Johnson amlinellu camau i lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr.
Gweinidog Iechyd Cymru'n gwrthod slogan newydd Llywodraeth y DU, fydd ddim bellach yn defnyddio'r geiriau "aros adref".
11 Mai
Pobl Cymru bellach yn cael ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd fel rhan o fesurau i lacio mymryn ar gyfyngiadau cymdeithasol.
Arwyddion ffyrdd i gael eu gosod ar y ffyrdd rhwng Cymru a Lloegr i atgoffa gyrwyr nad oes gan bobl hawl i deithio o'u cartrefi er mwyn gwneud ymarfer corff yng Nghymru.
12 Mai
Ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos 1,641 o farwolaethau yng Nghymru hyd yn hyn lle mae Covid-19 wedi bod yn ffactor.
Pryder am effaith cwtogi gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig.
13 Mai
Awgrym y gallai cynllun profi, olrhain a dilyn achosion coronafeirws fod yn weithredol erbyn diwedd Mai.
Babi tri diwrnod oed yn marw wedi i'w fam gael Covid-19.
Economi'r DU'n crebachu wrth i gyfyngiadau Covid-19 daro.
14 Mai
Llywodraeth Cymru'n gwadu bod yn rhaid i weithwyr allweddol groesi'r ffin am brofion yn dilyn awgrym mewn llythyr gan un o adrannau Llywodraeth y DU.
Adroddiad yn awgrymu fod ardaloedd difreintiedig yn dioddef mwy o farwolaethau Covid-19 ar gyfartaledd yng Nghymru nag ardaloedd eraill.
Comisiynydd heddlu'n beirniadu Prif Weinidog am beidio cynyddu'r dirwyon am dorri'r rheolau ynysu.
15 Mai
Mark Drakeford yn cyhoeddi manylion system goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau yng Nghymru ond heb gynnig amserlen benodol.
Y Gweinidog Addysg yn dweud hefyd fod dim dyddiad penodol i blant ddychwelyd i'r ysgol eto.
16 Mai
Rhybudd i bobl beidio â thorri cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru dros y penwythnos cyntaf ers i Boris Johnson lacio cyfyngiadau teithio yn achos trigolion Lloegr.
Canolfannau ailgylchu Cymru'n paratoi i ailagor yn ystod yr wythnos nesaf.
17 Mai
Llywodraeth Cymru'n ymuno â chynllun profi'r DU gan roi'r gorau i safle ar-lein eu hunain.
18 Mai
Arbenigwr fu'n rhan o ymchwiliad Hong Kong i SARS yn dweud fod angen i Gymru gydweithio â gweddill y DU i gael adnoddau delio â Covid-19.
Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pawb dros bump oed gyda symptomau coronafeirws nawr yn gymwys i gael prawf Covid-19 - gan gynnwys yng Nghymru
Dylai pobl sydd wedi colli eu synnwyr arogli hunan-ynysu, yn ôl y cyngor meddygol diweddaraf.
19 Mai
Caniatáu cwrdd â pherthnasau dan amodau penodol 'dan ystyriaeth', medd Llywodraeth Cymru.
1,852 wedi marw â coronafeirws yng Nghymru hyd at 8 Mai, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra.
Cynghreiriau Cymru ar ben oherwydd y pandemig sy'n golygu taw Cei Conna yw pencampwyr yr Uwchgynghrair eleni.
20 Mai
Cannoedd o swyddi cwmni British Airways dan fygythiad yn ne Cymru wrth i'r argyfwng Covid-19 daro'r sector awyrofod.
Llywodraeth Cymru'n lansio cynllun cefnogi'r sector addysg ôl-16.
Y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghymru i gynyddu o £120 i £1,920 cyn penwythnos gŵyl y banc.
21 Mai
Galwad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad i'r posibilrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi torri hawliau pobl oedrannus wrth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.
Sefydlu ysbytai maes, ble mae 35 o gleifion wedi cael triniaeth hyd yn hyn, wedi costio £166m.
Ffatri ger Pen-y-bont i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu prawf gwrthgyrff ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal.
22 Mai
Bron i un ymhob chwech o'r rheiny sydd wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru hefyd wedi bod yn byw gyda diabetes, yn ôl tystiolaeth yr ONS.
Bydd 500 o wirfoddolwyr o Gymru yn cael eu recriwtio i brofi brechlyn newydd yn erbyn coronafeirws.
23 Mai
Pobl yng Nghymru sydd eisiau prawf coronafeirws gyrru drwodd yn dal i fethu â defnyddio system archebu ar-lein Llywodraeth y DU.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd bod chwech yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19 gan godi'r ffigwr i 1,260.
24 Mai
Rhybudd gan weinidog economi Cymru y gallai'r sector twristiaeth ddioddef tan o leiaf Pasg 2021.
Arweinwyr cyngor yn codi pryderon am y diffyg profion Covid-19 mewn cartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig.
25 Mai
Llywodraeth y DU yn darparu hyd at £23m o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i'w helpu ymateb i'r argyfwng.
Rhybudd bod papurau newydd lleol mewn perygl o ddiflannu yn ystod y pandemig.
26 Mai
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod 2,007 o farwolaethau yng Nghymru yn ymwneud â coronafeirws hyd at 15 Mai.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n dweud y bydd hi'n cymryd cenhedlaeth i gynghorau Cymru dalu am effeithiau'r pandemig.
27 Mai
Llywodraeth Cymru'n amlinellu sut y bydd £2.4bn o arian ychwanegol yn cael ei wario er mwyn helpu cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus yn y pandemig.
Yr argyfwng wedi codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddatganoli, yn ôl gwleidyddion.
Llywodraeth Cymru ddim yn ystyried gosod cyfyngiadau lleol mewn gwahanol ardaloedd o'r wlad, yn groes i'r bwriad yn Lloegr.
28 Mai
Gweithwyr iechyd yn pwysleisio bod cymorth meddygol ar gael i bobl sydd ddim â Covid-19 hefyd yn ystod yr argyfwng.
Rhybudd y bydd y pandemig yn "ergyd farwol" i rai o sioeau amaethyddol Cymru.
29 Mai
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yn cael eu llacio rhywfaint yng Nghymru o 1 Mehefin.
Undeb addysg yn dweud fod y gweinidog addysg wedi cefnu ar argymhelliad i symud gwyliau'r haf fis yn gynharach yn y flwyddyn.
30 Mai
Y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ffafrio" beicwyr gyda'u canllawiau coronafeirws diweddaraf.
Pobl yng Nghymru bellach yn gallu archebu profion coronafeirws drwy wefan sy'n cael ei ddefnyddio gan weddill y DU.
31 Mai
Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain rhag coronafeirws yn cael ymarfer corff a chwrdd â phobl tu allan o 1 Mehefin.
Plaid Cymru'n rhybuddio y gallai'r diwydiant twristiaeth gael ei "ddinistrio" gan y pandemig os nad yw'r llywodraeth yn gwneud mwy i'w helpu.
1 Mehefin
Pobl sy'n dod i gysylltiad gyda rhywun a gafodd brawf positif am Covid-19 yn cael eu holrhain o heddiw ymlaen.
Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu cyflenwad o offer diogelwch personol yn "sefydlog ond yn fregus", wrth i Goleg Brenhinol y Nyrsys alw am wneud mwy i baratoi am ail don posib o achosion Covid-19.
2 Mehefin
ONS yn cyhoeddi bod cyfanswm o 2,122 o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws yng Nghymru. Yn yr wythnos hyd at 22 Mai roedd yna 134 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 - y cyfanswm wythnosol isaf ers dechrau Ebrill.
Deintyddion blaenllaw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o ganiatáu deintyddion i ddarparu mwy na gofal brys yn unig.
Gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething yn rhybuddio y gallai rhai o'r cyfyngiadau gael eu tynhau unwaith eto yn y gaeaf yn ddibynnol ar ba mor amlwg ydy'r feirws ac ar ymddygiad pobl.
3 Mehefin
Cadarnhad y bydd ysgolion Cymru'n ailagor ar 29 Mehefin.
'Angen pwyllo wrth godi cyfyngiadau'n raddol' medd y Gweinidog Iechyd.
Gwrthbleidiau'n galw am ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19.
4 Mehefin
Ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin oedd yr ail opsiwn gorau yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.
Gweinidog Addysg Cymru 'wedi ymgynghori'n llawn' ag undebau cyn penderfyiadu ailagor ysgolion.
Ymchwil yn awgrymu taw'r Cymoedd a threfi arfordirol y gogledd fydd yn 'dioddef fwyaf'
5 Mehefin
Llywodraeth Cymru ddim am "ruthro i wneud penderfyniad" ynghylch gorfodi pobl i orchuddio'u hwynebau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Rhybudd bod theatrau Cymru'n colli £1.4m yr wythnos yn sgil y pandemig.
Dros 1,000 o geir wedi'u eu hanfon o Fannau Brycheiniog dros gyfnod o ddeuddydd am dorri rheolau'r cyfyngiadau.
6 Mehefin
Ffigwr blaenllaw yn Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod gwisgo gorchudd dros eich wyneb i atal lledaeniad coronafeirws yn "rhesymol".
Aelod Seneddol yn rhybuddio y gallai busnesau twristiaeth antur "ddiflannu o'r map" heb fwy o gefnogaeth.
7 Mehefin
Y Prif Weinidog eisiau canlyniadau mwy o brofion Covid-19 wedi'u dychwelyd o fewn 24 awr.
Mark Drakeford yn gobeithio y gall pobl ganfod ffyrdd gwahanol i brotestio yn ystod y pandemig.
8 Mehefin
'Dim addewidion' wrth ystyried ailagor bwytai a thafarndai yng Nghymru.
54% o blant Cymru'n 'poeni am eu haddysg'.
9 Mehefin
Cyngor swyddogol newydd i wisgo gorchudd wyneb yng Nghymru.
Undeb Athrawon yn galw eto ar y Gweinidol Addysg i ollwng cynlluniau ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ddiwedd Mehefin.
Galw i roi cefnogaeth seicolegol i weithwyr iechyd tebyg i'r hyn mae milwyr yn ei gael.
10 Mehefin
Canllawiau newydd ar gyfer agor ysgolion yng Nghymru yn cynnwys pwyslais ar ddysgu y tu allan ac mewn grwpiau bychan.
Llywodraeth Cymru'n gobeithio "gallu dweud rhywbeth positif" wrth y diwydiant twristiaeth pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio ym mis Gorffennaf.
Sir Ddinbych bellach â'r gyfradd uchaf o achosion coronafeirws yng Nghymru gyfan, gan basio Rhondda Cynon Taf.
11 Mehefin
Mwy na 300,000 o weithwyr Cymru wedi bod yn rhan o'r cynllun ffyrlo - dros chwarter y gweithlu.
Bron pob awdurdod lleol yng Nghymru yn adrodd niferoedd bychan o achosion positif bellach, gyda dim achosion newydd mewn nifer.
Arweinwyr y diwydiant twristiaeth yn dweud bod y neges fod "Cymru ar gau" yn un "anhygoel o niweidiol".
12 Mehefin
Canolfan Mileniwm Cymru i aros ar gau tan "o leiaf" mis Ionawr 2021, gan beryglu 250 o swyddi.
Mark Drakeford yn dweud na fydd yn newid ei ddull o ystyried newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws, "pa bynnag mor gryf yw'r galwadau".
GDP y Deyrnas Unedig wedi crebachu 20.4% yn ystod mis Ebrill - y gostyngiad mwyaf ers i gofnodion ddechrau.
13 Mehefin
Galwadau am newid rheolau ynglŷn â gallu dynion hoyw i roi gwaed a phlasma gwaed yn sgil y pandemig.
Rhybudd bod y bydd sinemâu annibynnol yng Nghymru angen "cefnogaeth sylweddol am gyfnod hir er mwyn goroesi".
14 Mehefin
Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am sefydlu cronfa £250m i helpu'r trefi sydd wedi eu taro waethaf gan y pandemig.
"Disgwyl cyhoeddiad am agor addoldai yng Nghymru yn fuan," medd prif weithredwr Cytûn.
15 Mehefin
Llywodraeth Cymru'n edrych ar wahanol feysydd lle mae modd llacio'r cyfyngiadau ond yn dweud bod yn rhaid blaenoriaethu diogelwch ac iechyd y cyhoedd.
Myfyrwyr yn dechrau dychwelyd i golegau addysg bellach ledled Cymru wrth i'r cyfyngiadau gael eu lleddfu.
16 Mehefin
Nifer y marwolaethau wythnosol yn ymwneud â coronafeirws wedi gostwng i'w lefel isaf yng Nghymru ers diwedd Mawrth.
Y nifer sy'n hawlio budd-daliadau yn ymwneud â diffyg gwaith yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Arweinydd Cyngor Ceredigion yn awgrymu y byddai profi twristiaid am coronafeirws yn un ffordd o leddfu pryderon pobl leol.
17 Mehefin
"Fawr ddim" gwahaniaeth rhwng cadw pellter o 1m neu 2m", medd ymgynghorydd iechyd.
18 Mehefin
19 Mehefin
Y rheol 'aros yn lleol' i newid ar 6 Gorffennaf a hwb i dwristiaeth fis nesaf.
Ysgolion Sir Fôn i aros ynghau am y tro wedi i ffatri brosesu ieir yn Llangefni gau am fod gweithwyr wedi'u heintio.
20 Mehefin
Y tymor pêl-droed yn ailddechrau i glybiau Caerdydd ac Abertawe.
21 Mehefin
Rhybudd fod y diwydiant dur angen cymorth o fewn 'dyddiau nid wythnosau'.
22 Mehefin
Siopau sy'n gwerthu nwyddau nad sy'n hanfodol wedi cael croesawu cwsmeriaid unwaith eto.
Cyfyngiadau'n bosib wedi 175 o achosion Covid-19 mewn ffatri ym Môn.
Nifer o gynghorau'n cyhoeddi y bydd eu hysgolion yn ailagor am dair wythnos yn unig ar ddiwedd y tymor.
Cwmni bwyd Castell Howell yn ymgynghori ar dorri swyddi oherwydd y pandemig.
23 Mehefin
200 o achosion bellach yn ffatri 2 Sisters Môn - achosion hefyd mewn ffatri brosesu cig ym Merthyr Tudful.
'Cadw rheol 2m yn rhoi prifysgolion Cymru mewn sefyllfa anodd'
'Bydd rhai disgyblion yn methu teithio i'r ysgol' am fod cludiant yn amrywio o sir i sir.
Dyfais newydd all helpu mynd i'r afael ag ail don o achosion trwy fonitro lefelau ocsigen cleifion yn y gymuned.
24 Mehefin
Dysgu ar-lein yn debygol o barhau 'am gryn amser', medd y Gweinidog Addysg.
Ysgolion yn paratoi am newid mawr wrth ailagor ddydd Llun.
240 o swyddi 'yn y fantol' yn Wrecsam oherwydd effaith y pandemig ar y sector awyrofod.
25 Mehefin
Cynghorau Cymru 'mewn safle gwell' na Lloegr i ddelio â Covid-19, medd y Gweinidog Cyllid.
26 Mehefin
Rhybudd y gallai ffrwgwd torfol ar draeth ym Mro Morgannwg atal llacio'r cyfyngiadau.
Mark Drakeford yn gobeithio gwneud cyhoeddiad mewn dyddiau ynghylch caniatáu 'swigod cymdeithasol'.
Pryderon y gallai pobl Cymru sydd heb dderbyn ad-daliadau gan gwmnïau oherwydd Covid-19 golli £2.5m.
27 Mehefin
Nifer y bobl sydd wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru bellach dros 1,500.
Mannau cyhoeddus yn 'cael eu trin fel tomen sbwriel' wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
28 Mehefin
Pryder wrth i ffigyrau swyddogol ddangos bod y raddfa o brosesu profion coronafeirws wedi arafu bob wythnos ers canol Mai.
Rhaid cynllunio ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd wrth geisio ailagor ysgolion yn llawn ym mis Medi, medd y Gwenidog Addysg.
29 Mehefin
Llywodraeth Cymu'n cyhoeddu hawl i ddwy aelwyd ffurfio 'cartref estynedig' o ddydd Llun 6 Gorffennaf.
Disgyblion wedi dechrau dychwelyd i'w dosbarthiadau wedi i'r ysgolion orfod cau i'r mwyafrif am dri mis.
101 o achosion Covid-19 ymysg gweithlu ffatri Kepak, Merthyr Tudful.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020