Ar saffari yn yr ardd efo Iolo Williams
- Cyhoeddwyd

Er bod angen i bawb aros gartref cymaint â phosib oherwydd y coronafeirws, mae digon o fywyd gwyllt i'w fwynhau yn ein gerddi yn ôl y naturiaethwr Iolo Williams.

Blodau'r Gwanwyn

Mae Llygad Ebrill yn blodeuo yn gynt erbyn hyn
Mae'r tywydd yr wythnos ddiwetha' wedi bod yn fendigedig ac yn berffaith i weld byd natur. Y peth amlycaf yn yr ardd yma ac ar hyd y lôn fach sy'n mynd heibio ydi blodau'r gwanwyn - maen nhw yn eu hanterth.
Yr amlycaf ydi'r Llygad Ebrill, neu yn Saesneg y Lesser Celandine - blodau melyn hyfryd. Mae yna gannoedd ohonyn nhw o gwmpas.
Mae'n enw difyr, Llygad Ebrill. Ers talwm byddai'r rhan fwyaf yn agor mis Ebrill, ond efo'r gwanwyn yn dod yn gynt mae'n Chwefror a Mawrth arnyn nhw'n agor erbyn hyn a'r rhan fwyaf wedi troi drosodd erbyn Ebrill. Mae'n dangos pa mor fuan mae'r gwanwyn yn dod erbyn heddiw.

Y Briallu - a'r gwanwyn - wedi cyrraedd
Fydda i wrth fy modd yn gweld y briallu hefyd. Dwi'n hoff iawn o'i enw Saesneg - fel arfer mae'n well gen i'r enw Cymraeg - ond dwi'n hoff o'r gair Primrose. Mae'n dod o Prima Rosa, sef prima - cyntaf, a rosa - rhosyn. Pan oeddwn i'n hogyn ifanc fyddwn i'n gweld nhw yn y caeau ym mhob man. Erbyn hyn maen nhw wedi mynd o'r caeau - ond yn dal i'w gweld mewn gerddi.
Pryfetach
Ro'n i allan bore 'ma yn edrych ar y briallu a be' welais i'n bwydo ar un oedd gwenynbryf - y bee-fly. Maen nhw'n llawer mwy cyffredin na mae pobl yn meddwl. Mae'n edrych yn debyg i wenynen ond nid gwenynen ydi o - mae ganddo sugnydd, fel tiwb hir yn dod allan o'i geg ac mae'n rhoi hwnnw yn y blodyn.
Gwenynbryf yn bwydo ar neithdar briallu yng ngardd Iolo Williams
Mae'n werth i bobl edrych allan am hwn ar hyn o bryd. Eisteddwch lawr, yn enwedig os oes ganddoch chi lot o bethau fel briallu a blodau fel hynny, a rydach chi'n siŵr o weld un. Mae pobl fel arfer yn meddwl mai gwenyn ydyn nhw - ond mae'r rhain yn fwy triongl. Pen weddol fain a phen-ôl tew - fel triongl brown o ffwr, er nad ffwr ydi o wrth gwrs, ac mae'n hofran. Tydi o ddim yn pigo chwaith.
Sôn am wenyn mae'n amser gwych i weld y cachgibwm - y bumble bee. Mi welwch rhai rŵan sydd wedi goroesi'r gaeaf ar ôl tycio mewn rhywle sych, ac wedyn maen nhw'n dod allan rŵan gan fod y blodau cynnar yn rhoi neithdar.

Llwglyd ar ôl y gaeaf - y cachgibwm
Os welwch chi un rŵan - y frenhines fydd hi, un mawr. Fe welwch chi'r gweithwyr o fewn yr wythnosau nesa, yn adeiladu nyth a hel paill - maen nhw'n llai - ond y frenhines sydd o gwmpas ar hyn o bryd.
Dwi newydd fod am dro o gwmpas yr ardd a newydd weld cachgibwm cynffon hufennog, y buff-tailed bumble bee, ac mae yna gachgibwm cynffon goch hefyd. Ac mae yna un newydd rŵan - ddaeth ar draws y cyfandir yn y flwyddyn 2000 - sef cachgibwm y goeden, sy'n oren, du a gwyn.
Creaduriaid y dŵr

Madfallod - ond dim llyffantod - yn y pwll
Mae gen i bwllyn bach yn yr ardd - un o'r pethau gorau dwi wedi ei wneud. Fydda i'n mynd yna efo paned i weld be wela i, ac mae'n brysur iawn ar hyn o bryd.
Sgen i ddim llyffant na llyffant dafadennog - toad - dwn i ddim pam. Maen nhw ym mhwll y tŷ drws nesa a pan oeddwn i allan neithiwr roeddwn i'n eu clywed nhw. Mae'r pwll yn fy nghardd i yn llawn o fadfallod y dŵr.
Mae'r grifft llyffant allan ers tua mis, ond mae'n dibynnu ym mha ran o Gymru mae rhywun - yn y gorllewin ac yn Sir Benfro dwi wedi clywed am rai ychydig ar ôl Dolig, ond fel arfer mae hi tua diwedd Chwefror.
Adar yr ardd

Llwyd y Gwrych
Os ydych chi eisiau dysgu adnabod caneuon adar dyma'r cyfnod gorau, cyn i'r ymwelwyr ddod nôl o Affrica. Felly fe wnewch chi glywed y Robin Goch, y Fronfraith, yr Aderyn Du a Llwyd y Gwrych - ac mae'n haws eu clywed nhw cyn i'r adar fel y Telor Penddu neu Telor yr Ardd ddod nôl o Affrica.

'Y deryn du a'i bluen sidan'
Hefyd mae'n haws gweld yr adar sy'n canu ar hyn o bryd a'u hadnabod nhw - tydi'r dail heb dyfu yn y coed eto.
Faswn i'n codi tua chwech y bore a mynd allan i wrando arnyn nhw - ac mae'n werth mynd allan pen arall y dydd hefyd. Nes i glywed tair tylluan frech wahanol neithiwr - roedd posib clywed y tair dylluan ar yr un pryd, un tua milltir i ffwrdd, gan ei bod hi mor dawel.

Ydych chi wedi gweld bywyd gwyllt diddorol yn yr ardd? Anfonwch lun at cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: