Newydd briodi ond gwahanu am gyfnod yn sgil coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Ganol Chwefror, roedd Bridget ac Owain Harpwood o Lanilar yng Ngheredigion ar ben eu digon wedi i'r ddau briodi, ond ychydig dros fis yn ddiweddarach mae'r ddau yn gorfod byw ar wahân er mwyn diogelu iechyd Elain, merch Bridget.
Cafodd Elain, sydd bellach yn 10 oed, ei geni â chyflwr prin ar ei chalon - cyflwr sy'n golygu ei bod wedi gorfod cael sawl llawdriniaeth ac mae ei chadw rhag unrhyw salwch yn holl bwysig.
"Dwi'n teimlo bod bywyd wastad yn fregus,"medd ei mam Bridget, "ac mae hynny wedi dod yn realiti bywyd bob dydd ond mae haint COVID-19 wir wedi'n taflu ni ac mae nifer o'r teimladau emosiynol o'dd gen i yn ystod ei bywyd cynnar wedi dod nôl.
"Yr hyn sy'n wahanol y tro hwn yw bod y byd cyfan yn rhannu yr un gofidiau," ychwanegodd.
Yr wythnos hon wedi i nifer o gyfyngiadau gael eu cyflwyno ac wrth i'r haint ledu yng Nghymru fe benderfynodd y teulu mai'r peth gorau i Owain fyddai symud allan nes y byddai'r haint yn lleihau.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Bridget: "Mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn - mae gan Owain blant o'i briodas gyntaf ac mae ond yn deg i bob plentyn weld ei dad a'i fam yn ystod y cyfnod hwn.
"Ond dwi'n gorfod bod mor ofalus o Elain - allai'm cymryd risg i ddweud y gwir ac wrth i Owain ddod i gysylltiad ag eraill dwi'n ofni y bydd e'n dod â rhywbeth nôl i'r tŷ.
"Yn ystod y dyddiau diwetha 'ma dydyn ni ddim yn siarad am ddim arall i ddweud y gwir - ma'n sefyllfa sy' wedi gyrru fi'n nyts - dwi'n wipo a diheintio o hyd.
"Yn y diwedd roedd rhaid i ni ddod i benderfyniad - ac er bo fi'n torri fy nghalon, dwi'n teimlo ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir ond fyddai'n colli Owain yn ofnadwy a dwi ddim yn gwybod tan pryd fydd hyn."
Pwysau cyhoeddus
Ond mae Bridget Harpwood am ychwanegu mai pwysau cyhoeddus i raddau sydd wedi gwneud iddi feddwl yn y ffordd yma.
"I ddweud y gwir 'dan ni wastad wedi gorfod amddiffyn Elain rhag unrhyw haint a 'dyw hwn ddim yn wahanol - mae ystadegau yn dangos bod hwn yn llai tebygol o gael effaith arni - ond dwi ddim eisiau i neb ddweud fy mod i'n anghyfrifol a beth petai rhywbeth yn digwydd?
"Dwi wir wedi torri fy nghalon bod ein teulu prydferth yn cael ei chwalu dros dro - ond gobeithio na fydd yn ry hir - ond pwy a ŵyr, mi all fod yn fisoedd."
Dywed bod salwch Elain yn golygu eu bod nhw fel teulu wedi bod yn hynod o ddibynnol ar y Gwasanaeth Iechyd a all hi ddim diolch digon iddyn nhw am eu gofal.
"Mae pob nyrs a meddyg wedi bod yn hollol wych," meddai.
"Ac ydw, rwy'n edrych ymlaen i gael Owain yn ôl - i ni gael parhau â bywyd priodasol llawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020