Non Stanford: Dim Gemau Olympaidd yn 'ergyd seicolegol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bencampwraig triathlon y byd Non Stanford yn dweud fod gohirio Gemau Olympaidd Tokyo yn ergyd seicolegol i nifer fawr o athletwyr.
Er bod yr athletwraig yn cytuno gyda phenderfyniad y trefnwyr i ohirio'r Gemau tan 2021, mae hi hefyd yn cydymdeimlo gyda'r athletwyr sy'n dod at ddiwedd eu gyrfaoedd.
"Mae fy meddyliau efo'r athletwyr sy'n barod i rasio a chystadlu 'leni, achos iddyn nhw mae hi'n sefyllfa ddiflas", meddai.
"Mi fydd blwyddyn ychwanegol o ymarfer bob dydd yn anodd, yn enwedig i'r rhai oedd wedi ystyried ymddeol ar ôl Y Gemau.
"Ond yn anffodus doedd cynnal Y Gemau 'leni ddim yn opsiwn."
Blwyddyn arall o hyfforddi
Fe enillodd Stanford Bencampwriaeth Triathlon Y Byd yn 2013, cyn cael ei dewis yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio yn 2016, lle gorffennodd hi yn y 4ydd safle.
Mae hi'n annhebygol y byddai Non wedi cael ei dewis ar gyfer y tîm eleni oherwydd anaf, felly mae gohirio'r Gemau yn rhoi gwell cyfle iddi allu cystadlu yn Tokyo.
"Ges i lawdriniaeth ar fy mhen-glin y llynedd, a dwi dal ddim yn barod i rasio.
"O safbwynt personol, mae hyn yn gwneud fy mywyd i ychydig yn haws, achos mae hyn yn rhoi blwyddyn yn ychwanegol i fi ddangos i'r dewiswyr be dwi'n gallu ei wneud."
Er gwaetha'r pandemig, mae Non ar fin teithio i Awstralia gyda'i chariad, Aaron Royle, sydd hefyd yn athletwr triathlon.
"Da ni wedi gwneud y dewis i fynd allan yno i fod yn nes at ei deulu.
"Pan fydden ni yn cyrraedd mi fydden ni'n mynd syth mewn i gwarantin am bythefnos.
"Mi fydd hynny yn gwneud hyfforddi yn dipyn o sialens i ni"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd16 Medi 2016