12 o lyfrau i godi'ch calon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r golygydd a'r awdures Meleri Wyn James, awdur y gyfres Na, Nel! i blant a'r nofel ddirgel Blaidd Wrth y Drws i oedolion, yn cynnig ei dewis hi o lyfrau i godi ein calonnau a'n helpu i ddianc am sbel i fyd y dychymyg tra'n bod ni'n gorfod aros yn ein cartrefi

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Mae hiwmor yn beth personol, medden nhw… Yn sicr, dwi wedi enjoio dethol y digri a chwilio am ddihangfa i guro'r Corona.

Ac os ydw i wedi dysgu un peth, dwi'n diolch am fyd darllen, ond mae angen mwy o lyfrau hiwmor a nofelau digri ar ddarllenwyr Cymraeg. Felly, amdani awduron!

Cicio'r Bwced, Marlyn Samuel

Os ydych chi'n chwilio am donic mewn amseroedd gofidus, Marlyn Samuel yw'r awdur i chi. Fe ges i fy nal yn chwerthin yn uchel ar fws o Aber i Gaerdydd yn darllen ei nofel ddiweddara, Cicio'r Bwced, am fenyw ganol oed sy'n dechrau byw ei bywyd ar ôl marwolaeth disymwyth ei gŵr. Arhoswch nes i chi gyrraedd y bennod am Hywel Gwynfryn - dwi'n dweud dim mwy!

Mae sawl stori dda yn bac-catalog Marlyn, mae'n werth rhoi cynnig ar Cwcw a Milionêrs hefyd.

Ffynhonnell y llun, Marlyn Samuel

Carafanio, Guto Dafydd

Bydd yn rhaid aros nes 2021 i fwynhau carafanio yn Eisteddfod Tregaron ond dyma flas ar yr hwyl. Hanes teulu ifanc yn mynd ar wyliau, ie, ond peidiwch â chael eich twyllo gan y stori syml. Nofel onest, hawdd i'w darllen fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel ac ystyried rhai o gwestiynau mwyaf bywyd.

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth, Gol. Gruffudd Owen

Os y'ch chi 'ddim yn lico barddoniaeth' dyma gerddi digri i herio rhagfarn. Mae'r stompfeistr Gruffudd Owen wedi casglu'r goreuon gan amrywiaeth o feirdd cyfoes a byddwch, fe fyddwch yn tagu ar eich tost a jam. I ddyfynnu Dafydd Emyr ar Gwales: 'Mae mawredd mewn mieri.'

Os cewch flas ar y rhain ewch ymlaen at gasgliad Bethan Mair o Hoff Gerddi Digri Cymru - 100 o gerddi modern a chlasurol i godi gwên.

Cicio'r Bar, Sioned Wiliam

Fel Golygydd Comisiynu Comedi BBC Radio 4 mae'r awdures hon yn gwybod sut i roi gwên ar wyneb. Mae Cicio'r Bar yn gyfle i ddianc yn ôl i fywyd coleg wrth fwynhau helyntion tair myfyrwraig yn y Coleg ger y Lli yn Aberystwyth yn y 1980au. Mae'r nofel ysgafn hon yn llawn o'r doniol a'r dwys ac yn gwbl Gymreig. Er ei bod yn ddilyniant i Dal i Fynd, nid oes rhaid i chi fod wedi darllen y gyntaf i'w mwynhau, ond yn sicr fe fyddai'n werth i chi wneud.

Ffynhonnell y llun, Meleri Wyn James
Disgrifiad o’r llun,

Llyfrau rhai o'r awduron sydd yn cynnig dihangfa i Meleri Wyn James yn ystod argyfwng y coronafeirws

Y Sw, Tudur Owen

Nofel gan y comedïwr a'r cyflwynydd ffraeth Tudur Owen? Wel, fe fyddech chi'n disgwyl sawl laff gan stori ryfeddol Y Sw - a chewch chi ddim mo'ch siomi. Llyfr llawn hiwmor a chymeriadau lliwgar yn yr hanes hwn am fachgen ifanc y mae ei fywyd yn newid am byth pan mae ei dad yn sefydlu sw ar y fferm deuluol.

Allan â Fo, Stifyn Parri

Fe ddaw'n amlwg yn hunangofiant yr actor a'r digrifwr Stifyn Parri ei fod yn gweithio'n galed i fwynhau'r bywyd sydd ganddo. Neges y mae'n werth ei chofio ar hyn o bryd. Mae'r straeon lliwgar hyn yn cynnwys y doniol a'r drygionus ac yn cynnig dihangfa mewn clecs cefn llwyfan, tantrums a chyfrinachau'r sêr.

Ffynhonnell y llun, Gomer/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Cofio pan oedd 'na Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst? Dyma Stifyn Parri yn hyrwyddo ei lyfr yn y Brifwyl yn 2019

O'r Cysgodion, Heiddwen Thomas

Casgliad gwych o straeon byrion y byddai'n hawdd ymgolli ynddyn nhw am oriau. Dyw hwn ddim yn llyfr feelgood yn yr ystyr draddodiadol, ond mae wastad digon o hiwmor yn sgrifennu ffraeth Heiddwen ac mae ganddi ddawn i greu cymeriadau sy'n eich cyffwrdd.

Sioned, Winnie Parry

Mae dawn dweud Winnie Parry yn sicrhau fod digon o hiwmor yn narluniau hunangofiannol yr awdures o fywyd gwledig ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid hanes sych sydd yma ac efallai y byddwch yn chwerthin wrth i'r werines hon ddweud ei dweud yn gwbl naturiol am fywyd menyw ifanc yn y Trallwm a'r Felinheli gan ddatgelu agweddau sy'n chwerthinllyd i ni heddiw.

Ffynhonnell y llun, Meleri Wyn James
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o hen ffefrynnau Meleri

Dyn Pob Un, Euron Griffith

Os mai hiwmor dychanol sy'n eich ticlo, Euron Griffith yw'r dyn i chi. Dwi wedi joio pob un o nofelau'r awdur hwn mas draw. Mae'n werth dechrau yn y dechrau gyda Dyn Pob Un, nofel dditectif ffraeth am ymchwilydd i gwmni teledu sy'n breuddwydio am fod yn awdur enwog - ond cyn hynny rhaid iddo dalu am bechodau'r gorffennol. Mae'r stori ddoniol hon yn llawn gwirioneddau mawr.

Seren Wen ar Gefndir Gwyn, Robin Llywelyn

Gwib o'r gorffennol sydd nesaf yng nghwmni Robin Llywelyn a'r nofel Seren Wen ar Gefndir Gwyn. Rhaid cyfadde mod i'n dipyn o ffan o ddychymyg rhemp a hiwmor ffraeth yr awdur hwn ac fe enillodd y nofel hon y Fedal Ryddiaith yn ôl yn 1992 a chael ei chanmol am fod yn bennod newydd yn hanes ffuglen Cymraeg. Mae'n alegori ryfeddol, ffantasïol ac yn llawn ffraethineb wrth i Gwern Esgus ddianc o'i famwlad a pharatoi at ryfel yn erbyn y llywodraeth. Dyma fyd a syniadau heb ffiniau.

I Botany Bay, Bethan Gwanas

Mae Bethan Gwanas yn frenhines sgrifennu ffraeth, diflewyn-ar-dafod a digwyddiadau dramatig ac mae hi wedi llunio sawl llyfr difyr y dylid eu darllen. Efallai nad I Botany Bay yw'r mwyaf doniol o'i heiddo, ond mae'n sicr yn cynnig dihangfa, yn llythrennol, wrth ein tywys ni ar fordaith bell yn y 19eg ganrif. Daw Ann Lewis, 18 oed o deulu cyffredin yn Nolgellau ond mae ei chwymp yn ei chario ar daith cyffrous i ben draw'r byd. Nofelydd sy'n gwybod sut mae cadw'r darllenydd yn awchu am fwy.

Mwynhewch y darllen!

Os nad yw'r llyfrau yma ar eich silff chi yn barod, mae rhai siopau llyfrau yn dal i gynnig gwasanaeth postio. Dyma restr Cyngor Llyfrau Cymru o siopau sy'n cynnig gwasanaeth ar-lein , dolen allanol

Gallwch hefyd ddewis cefnogi'ch siop leol trwy ddewis rhoi'r incwm iddyn nhw wrth brynu o wefan Gwales, dolen allanol y Cyngor Llyfrau hefyd.

Hefyd o ddiddordeb: