Gweld Tegi, anghenfil Llyn Tegid, unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Llyn TegidFfynhonnell y llun, Wiki

Wrth i argyfwng coronafeirws barhau a mwy ohonom aros yn ein cartrefi, mae ambell effaith annisgwyl wedi ei weld ar draws Cymru yr wythnos yma.

Un o'r rhain yw bod anifeiliaid wedi crwydro i ardaloedd fyddai fel arfer yn llawn pobl. Mae geifr wedi eu gweld yn Llandudno, ieir ar strydoedd llonydd Caerdydd a pheunod yn gwneud y mwyaf o dawelwch stryd fawr Bangor.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Ond mae un creadur hyd yn oed mwy prin wedi ail-ymddangos yn ystod yr wythnos. Dyw Tegi, anghenfil chwedlonol Llyn Tegid, heb gael ei weld ers rhai degawdau bellach. Roedd rhai hyd yn oed wedi awgrymu mai creadur dychmygol yw Tegi oherwydd ei absenoldeb hir.

Ond gydag ardal y Bala yn dipyn tawelach na'r arfer, mae yna sôn ei fod i'w weld yn glir dan wyneb y dŵr.

Fe ddywedodd Ebrillwen Haf, sy'n byw gerllaw, wrth Cymru Fyw: "Mae Tegi yn enwog am fod yn greadur eithaf swil, ond rydan ni wedi ei weld sawl tro yr wythnos hon."

Dyfroedd tawel

Gan fod gwersyll yr Urdd, Glan-llyn wedi cau am gyfnod a dim gweithgareddau dŵr ar y llyn, mae'n debyg ei bod bellach yn haws gweld siâp adnabyddus Tegi yn nofio.

Ac yn ôl Ebrillwen mae'r anghenfil hyd yn oed wedi gadael y llyn i grwydro'r glannau ger llaw. "Fe welais i o ar lan y llyn echdoe. Efallai ei fod yn mwyhau'r tywydd yr amser yma o'r flwyddyn."

Wrth gwrs, gan fod gofyn i'r mwyafrif ohonom aros adref ar hyn o bryd, dim ond y rhai ffodus sy'n byw'n agos iawn at y llyn fydd yn gallu gweld Tegi am nawr. Ond mae Ebrillwen yn gobeithio daw'r amser yn fuan pan all mwy o bobl gael cip ar Tegi gyda'u llygaid eu hunain.

"Rydan ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl o bob cornel o'r byd i'r Bala unwaith eto. Ond am y tro, fe gaiff Tegi ymestyn ei goesau a mwynhau ei hun."

Hefyd o ddiddordeb: