Galw i roi mwy o gymorth Credyd Cynhwysol ar frys

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn cerdded heibio canolfan Credyd Cynhwysol ynghanol pandemig CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Credyd Cynhwysol ynghanol pandemig Coronafeirws

Mae mudiad sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi yng Nghymru yn cefnogi galwadau am newid i daliadau Credyd Cynhwysol er mwyn rhoi arian ar frys i bobl sy'n colli gwaith yn sgil pandemig coronafeirws.

Daw'r alwad gan Sefydliad Bevan i gyflymu taliadau budd-dal wrth i Lywodraeth y DU gadarnhau fod nifer y bobl sydd wedi ymgeisio am y Credyd Cynhwysol naw gwaith yn fwy na'r arfer bythefnos ers i'r cyhoedd gael gorchymyn i aros adref.

Mae tua 950,00 o bobl yn y DU wedi ceisio am y budd-dal rhwng 16 a 31 Mawrth, o'i gymharu â'r oddeutu 100,000 arferol mewn cyfnod o bythefnos.

Does dim ystadegau penodol hyd yma ar gyfer Cymru, ond yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau mae staff yn ymdopi'n dda dan bwysau aruthrol.

'Byd o wahaniaeth'

Mae Sefydliad Bevan hefyd yn galw am adael i bobl sy'n methu gweithio gan fod ysgolion ynghau, neu am eu bod yn hunan ynysu, gael hawlio Credyd Cynhwysol.

Dywed eu cyfarwyddwr, Victoria Winckler: "Os yw'r Credyd Cynhwysol am leddfu'r straen o bobl yn colli eu hincwm yn ystod y pandemig coronafeirws, mae angen newidiadau brys.

"Byddai rhoi taliad yn syth i helpu pobl dros dro yn gwneud byd o wahaniaeth, heb fod rhaid iddyn nhw ei dalu nôl am o leiaf chwe mis.

"Mae'r Credyd Cynhwysol yn achubiaeth a nawr yw'r adeg i wneud iddo weithio."

Mae Sefydliad Bevan hefyd yn dweud y dylid cynyddu budd-dal tai i swm cyfartaledd taliadau rhent, fel bod pobl yn gallu aros yn eu cartrefi.

Fel y mae pethau'n sefyll, mae'r lwfans uchaf ond ar yr un lefel â'r rhenti sydd ymhlith y 30% isaf.

Yn ôl y felin drafod annibynnol, y Resolution Foundation, fe ddylid ehangu'r taliadau i bobl sy'n ennill cyflogau canolig, ond sydd wedi colli eu swyddi oherwydd y feirws.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth y DU annog pobl i wneud cais am arian gan fod cynifer ddim yn gwybod y gallan nhw wneud hynny.

'Help allweddol'

Dywedodd prif economegydd y Resolution Foundation, Karl Handscomb mai'r "Credyd Cynhwysol yw rheng flaen ein hymateb i'r argyfwng economaidd yn achos teuluoedd ar gyflogau isel a chanolig.

"Mae angen i'r Llywodraeth sicrhau ei bod yn 'barod am y frwydr' o ran gwneud y gwaith yma."

Ychwanegodd fod, er gwaethaf yr help ariannol "sydd i'w groesawu'n fawr" ar gyfer gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig, "nifer fawr iawn o bobl yn colli eu gwaith ac angen cymorth incwm ar unwaith er mwyn osgoi caledi.

"I'r bobl hyn, bydd Credyd Cynhwysol yn help allweddol."

'Pwysau ond staff yn ymdopi'

Mewn datganiad dywed yr Adran Waith a Phensiynau fod yna bwysau aruthrol ar y gwasanaeth gyda'r cynnydd anferthol yn y nifer o geisiadau am y Credyd Cynhwysol.

Ond mae'n dweud fod "y system yn ymdopi'n dda" gyda'r pwysau ychwanegol a bod staff "yn gweithio'n galed iawn i sicrhau'r gefnogaeth y mae pobl ei hangen".

Ychwanegodd: "Rydym yn cymryd camau brys i gynyddu'r capasiti - rydym wedi symud 10,000 o'r staff roedden ni'n eu cyflogi yn barod i helpu ar y rheng flaen ac rydym yn recriwtio rhagor."