Coronafeirws: Galw am leihau trafferthion ariannol

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i wahardd gorchmynion i droi tenantiaid o'u cartrefi yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Daw'r apêl mewn llythyr sydd wedi ei lofnodi gan gyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, aelod o weithgor Llafur Cymru, Darren Williams a nifer o swyddogion undebau llafur.

Mae'r llythyr hefyd yn galw am ehangu gwasanaethau pryd ar glud, a grantiau brys i bobl mewn "tlodi difrifol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am gyhoeddi "cyfres o fesurau i helpu a gwarchod pobl".

Yn ôl llofnodwyr y llythyr, sy'n disgrifio'u hunain fel "gwleidyddion asgell chwith, undebwyr llafur, ymgyrchwyr annibyniaeth, gweithwyr iechyd ac eraill", mae haint Covid-19 yn "fygythiad gwirioneddol a sylweddol i bobl Cymru".

Maen nhw'n dweud bod Cymru â chanran helaeth o bobl hŷn a chyfradd uchel o dlodi, a bod angen i Lywodraeth y DU "ryddhau arian yn syth i godi adnoddau a darpariaethau gofal iechyd brys".

Ail-feddu gwelyau ysbytai a gwestai

Mae'r llythyr yn galw am "ail-feddu gwelyau ysbytai preifat a gwestai i ymateb i alw sy'n cynyddu'n ddychrynllyd a chyflogi gweithwyr iechyd a gofal ychwanegol".

Hefyd "mae'n rhaid trefnu gofal plant i weithwyr rheng flaen", meddai'r llofnodwyr.

"Fel pumed wlad fwyaf cyfoethog y byd, mae'r DU â'r gallu i gymryd camau beiddgar - ond ble mae'r pwerau wedi eu datganoli, a phe byddai'n angenrheidiol, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod i gamu i'r adwy."

Maen nhw hefyd yn rhestru nifer o gamau eraill, gan gynnwys:

  • Cyflog salwch llawn i bawb, gan gynnwys i weithwyr ar gytundebau 'dim oriau';

  • Cefnogaeth i weithwyr sy'n hunan ynysu;

  • Gwahardd cwmnïau rhag torri cyflenwadau dŵr, trydan a nwy tenantiaid sy'n cael trafferth talu biliau;

  • Rhewi taliadau rhent a morgais pobl sydd wedi eu heintio;

  • Camau i atal pobl rhag cael eu sarhau am eu bod o gefndiroedd ethnig neu'n hanu o China neu'r Eidal;

  • Camau i reoli prisiau nwyddau hanfodol.

Dywed y llythyr: "Ni ddylai unrhyw un elwa o salwch neu farwolaeth."

'Her eithriadol'

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi £475m ychwanegol i Lywodraeth Cymru er mwyn ymateb i'r hyn mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn ei ddisgrifio'n "her eithriadol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd camau mewn ymateb i'r haint ar sail cyngor meddygol a gwyddonol.

"Rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau lles y bobl ac i geisio arafu lledaeniad y feirws, gan helpu ein gwasanaethau cyhoeddus ymateb i'r haint a'i reoli," meddai'r llefarydd.

"Byddwn ni'n cyhoeddi cyfres o fesurau i helpu a gwarchod pobl."