Dathlu priodas ddiemwnt er i haint Covid-19 atal parti

  • Cyhoeddwyd
Geraint a Mair ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Geraint a Mair Tomos ddydd Iau - llun a gafodd ei dynnu o bellter yn unol â gorchymyn y llywodraeth

Mae dyn o Sir Abertawe yn cofio bod yna "gwd crowd" pan briododd â'i wraig 60 mlynedd yn ôl.

Ond oherwydd y cyfyngiadau presennol ar gymdeithasu bydd yn rhaid i Geraint a Mair Thomas ddathlu eu pen-blwydd priodas ddiemwnt ar wahân i'w hanwyliaid.

Roedd y cwpwl o Orseinon wedi bwriadu nodi'r garreg filltir ddydd Sadwrn mewn parti gyda rhyw 30 o berthnasau a ffrindiau ond bu'n rhaid ei ganslo.

Hefyd bu'n rhaid anghofio am drip i Arberth, yn Sir Benfro am de prynhawn gyda'u dwy ferch, Mandy a Claire.

Mewn ymateb i hynny, aeth y merched ati i baratoi te prynhawn eu hunain i'w rhieni ei fwynhau yn eu cartref.

Gwneud y gorau o'r sefyllfa

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Geraint a Mair Thomas ar eu diwrnod priodas yn 1960

"Roedd eithaf tipyn wedi eu cynllunio ond oherwydd y sefyllfa bresennol, dyw e ddim yn bosib," meddai eu merch, Mandy Lewis, oedd yn arfer gweithio fel nyrs.

"Felly er mwyn codi eu calonnau fe wnes i de prynhawn iddyn nhw a'i adael ar eu stepen drws.

"Hefyd, trefnon ni i Fortnum & Mason ddanfon basged iddyn nhw - treat go iawn."

"Gofynnais iddyn nhw eistedd yn yr ardd a wnes i dynnu lluniau. Rydyn ni'n trial gwneud y gorau o'r sefyllfa."

'Mewn lle da iawn'

Cyn i'r rheolau ymbellhau cymdeithasol ddod i rym, roedd Mr Thomas, cyn-weithiwr bwrdd trydan 87 oed, yn chwarae golff yn wythnosol mewn clwb yng Nghlydach.

Mae Mrs Thomas, sy'n 81, yn parhau i lanhau ar fferm ei brawd ger Penyrheol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dathliad teuluol o'r gorffennol sy'n amhosib dan yr amgylchiadau presennol, er y garreg filltir arbennig

Mewn sgwrs ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Mr Thomas nad yw erioed wedi byw trwy amgylchiadau tebyg i'r rhai presennol, er bod ganddo atgofion plentyn o'r Ail Ryfel Byd.

Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo ei fod "mewn lle da iawn" o gymharu â'r heriau sy'n wynebu llawer o bobl eraill wrth i'r argyfwng fynd rhagddo.

Ychwanegodd ei fod yn derbyn y cyngor swyddogol i bobl dros 70 aros yn eu cartrefi am ychydig fisoedd, ac wedi mabwysiadu agwedd "bu'n dawel a cario ymlaen!" nes bydd bywyd yn dychwelyd i'r drefn arferol.

Ond mae'n ategu neges yr awdurdodau fod angen i bobl "gri'ndo a cadw yn eu tai" yn y cyfamser.