Addasu sesiynau rhoi gwaed oherwydd coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
GwaedFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae rhoddwyr gwaed yng Nghymru wedi cael cais i roi "yn wahanol" er mwyn sicrhau bod cyflenwadau digonol o waed ar gael yn ystod argyfwng coronafeirws.

O dan ganllawiau'r llywodraeth, mae teithio i roi gwaed yn cael ei ystyried fel taith hanfodol.

Ond er mwyn ymateb i'r newidiadau, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi lleihau nifer y canolfannau rhoi gwaed sy'n cael eu cynnal yn wythnosol.

Yn hytrach na chasglu gwaed mewn tua 30 o leoliadau ar draws Cymru am un diwrnod bob wythnos, bydd y gwasanaeth nawr yn casglu mewn pump o ganolfannau ond am fwy nag un diwrnod ymhob un.

Fe fydd y canolfannau rhanbarthol mewn lleoliadau gwahanol bob wythnos, ac fe fyddan nhw i gyd yn cael eu glanhau yn llwyr cyn, yn ystod ac ar ôl pob sesiwn.

Dywedodd cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: "Ry'n ni'n gofyn i'n rhoddwyr gwaed gwych i fynd cam ymhellach er mwyn cynorthwyo'r GIG yn y cyfnod anodd hwn.

"Mae'r stoc o waed sydd gennym ar hyn o bryd yn dda, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n gwneud y daith hanfodol i roi gwaed.

"Fel arfer byddwn yn ceisio trefnu sesiynau yn agos i'n rhoddwyr, ond o dan yr amgylchiadau arbennig yma byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i edrych ar ein gwefan ac i ddod i roi gwaed mewn canolfan rhanbarthol sy'n agos iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y canolfannau yn cael eu glanhau yn llwyr cyn, yn ystod ac ar ôl pob sesiwn

Er bod y stoc presennol yn ddigonol, nid yw gwaed yn cadw am hir felly mae angen cyflenwadau newydd yn gyson. Mae nifer y sesiynau casglu 30% yn is na'r arferol.

Pwysleisiodd y gwasanaeth fod yr holl sesiynau rhoi gwaed yn ddiogel. Mae'r staff wedi cael hyfforddiant mewn rheoli haint, ac mae'r sesiynau wedi'u trefnu er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol.

Gall unrhyw un rhwng 17 a 66 oed ac yn pwyso dros 50kg roi gwaed, er bod cyfyngiadau eraill yn bosib i fenywod o dan 20 oed.

Nid yw'r gwaed ar gyfer damweiniau neu argyfyngau yn unig - mae cleifion canser, er enghraifft, angen trallwysiadau cyson.