Apêl ar drothwy gwyliau'r Pasg i gadw draw o'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn holi modurwyr ar y ffordd i Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu yn holi modurwyr ar y ffordd i Ynys Môn

Ar drothwy cyfnod gwyliau'r Pasg, mae'r Prif Weinidog a rhai o brif sefydliadau gogledd Cymru yn erfyn o'r newydd ar bobl i beidio gwneud teithiau diangen ac i ymwelwyr gadw draw er mwyn atal lledaenu coronafeirws.

Daw'r apêl mewn datganiad ar ran chwe chyngor sir y gogledd yn cefnogi galwad tebyg gan arweinwyr twristiaeth y rhanbarth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywed y cynghorau fod angen i bawb barchu'r cyngor swyddogol "er mwyn diogelu a chefnogi ein gwasanaethau iechyd yn lleol".

"Mae ein hatyniadau wedi cau ac mae'r trigolion lleol yn gwneud ymdrech arbennig wrth ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol a negeseuon aros adref," medd y cynghorau.

"Rydym yn annog ymwelwyr posib i ddilyn y cyngor yma hefyd. Plîs arhoswch adref a chadwch yn saff.

"Fe fyddwn dal yma pan fydd hyn wedi dod i ben a bydd ein atyniadau twristiaeth a diwylliannol a'r Parciau Cenedlaethol yn falch o roi croeso Cymreig arbennig i chi pan fydd bob dim yn ôl i'r arfer."

Mae'r cynghorau'n pwysleisio fod y pandemig Covid-19 "yn creu heriau digynsail" i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau brys "a phob rhan o gymdeithas Gogledd Cymru".

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, fod yna orchymyn clir "na ddylid ond gadael y cartref ar gyfer siopa am hanfodion, anghenion meddygol neu ymarfer corff ac y dylid ond gwneud teithiau hanfodol.

"Dydy ymweld â'ch ail gartref ddim yn daith hanfodol."

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer yr ymwelwyr ag ardal Eryri bythefnos yn ôl yn destun gofid i drigolion ac awdurdodau'r gogledd

Daeth honiad gan Aelod Seneddol lleol bod ymwelwyr yn rhannu syniadau am sut i osgoi'r heddlu i deithio i'w hail-gartrefi.

Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, "Mae ganddon ni dystiolaeth bod perchnogion tai gwyliau yn rhannu cyngor am deithio yn y nos er mwyn osgoi'r heddlu a hyd yn oed o bobl yn poeni dim am gael dirwy am deithio.

"Maen nhw wedi gadael ac eisiau cyrraedd. Mae'r heddlu'n gwneud eu gorau gyda'r adnoddau sydd ganddyn nhw."

'Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin'

Dywed Heddlu Gogledd Cymru y bydd swyddogion yn parhau i siarad â'r cyhoedd yn eu cymunedau gan "sefydlu eu hamgylchiadau unigol... egluro'r risgiau a rhybuddio am ganlyniadau methu â chydymffurfio â'r canllawiau".

Yn ôl yr Uwch-arolygydd Richie Green, mae'n "rhaid i bawb gyfrannu at yr ymdrech genedlaethol" i atal yr haint rhag lledaenu, ac mae'r "mwyafrif helaeth... wedi gwneud newidiadau sylweddol i'w trefniadau a'u harferion bob dydd".

"Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb efo'n gilydd i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd - defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a'n helpu gyda'n gilydd i achub bywydau."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon wedi codi mewn rhannau o'r gogledd fod pobl yn dal i hunan ynysu yn eu hail gartrefi

Dywed arweinwyr twristiaeth eu bod yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr unwaith y bydd yr argyfwng presennol drosodd, a bod yr apêl i bobl gadw draw yn "gwbl anarferol" ond angenrheidiol.

Mae atyniadau mwyaf poblogaidd y gogledd ar gau, gan gynnwys prif fynyddoedd a holl feysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Disgrifiad o’r llun,

Carla Imbrenda a'i merch Gabriella yn Llanberis

Ond yn ôl adroddiadau gan bobl leol mae'r ardal lawer yn llai prysur nag arfer.

Mae Carla Imbrenda yn dywysydd dringo sy'n byw yn Llanberis a'n dweud bod y dref yn fwy tawel nag erioed.

"Fel rhywun sy'n byw yma ac yn dibynnu ar y diwydiant ymwelwyr, mae'n fwy tawel nag ydw i yn ei gofio erioed," dywedodd.

"Tydw i ddim wedi gweld unrhywun sydd ddim yn dod o'r ardal yma. Dwi'n meddwl bod pobl yn gwneud beth ddylian nhw fod yn ei neud."

Mae heddlu'r Gogledd hefyd yn dweud bod 63% yn llai o draffig nag arfer ar yr A55.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Gogledd-Chanolbarth

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Gogledd-Chanolbarth

'Anghredadwy'

Dywedodd Michael Bewick, Cadeirydd Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru: "Mae gofyn i bobl beidio ymweld yn gwbl anghredadwy, ond rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol.

"Mae pob atyniad yn y Gogledd ar gau, mae ein prif fynyddoedd a thraethau ar gau ac mae ein trefi a'n pentrefi i bob pwrpas ar gau."

Ychwanegodd fod hwn yn gyfnod o her eithriadol i'r sector twristiaeth ond ei fod yn siŵr y gallai "siarad ar ran y sector cyfan gan ddiolch i bobl am gadw i ffwrdd, i aros yn eu prif gartref".

Pryder am ymwelwyr mewn rhannau eraill o Gymru

Disgrifiad o’r llun,

Bannau Brycheiniog, ger Storey Arms, Ebrill 4ydd 2020

Mae pryder am ymwelwyr mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Yn Storey Arms ym Mannau Brycheiniog mae 'na arwyddion yn atal modurwyr rhag parcio mewn mannau sydd fel arfer yn boblogaidd ymhlith cerddwyr.