Côr Orpheus Treforys yn ymarfer yn dawel ar y we

  • Cyhoeddwyd
CôrFfynhonnell y llun, Zoom
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r côr wedi bod yn ymarfer o'u cartrefi

Ni fydd cyngherddau, eisteddfodau, na chymanfaoedd canu yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos, ond mae sawl côr wedi parhau i ymarfer gyda help technoleg - yn eu plith Côr Orpheus Treforys.

Pob nos Sul mae aelodau'r côr - o'r ieuengaf, sy'n 22 oed, i'r hynaf, sy'n 88, wedi bod yn defnyddio ap Zoom i ymarfer a chymdeithasu.

Syniad un o aelodau ieuengaf y côr oedd gwneud hyn.

Dywedodd Aaron Brown, 26: "Mi 'nes i arbrofi gyda rhai aelodau o'r pwyllgor yn gyntaf ac wedi hynny mi ddes i'r casgliad mai'r peth gorau fyddai dim ond rhoi meicroffon Joy ar y piano ymlaen a thawelu meic pawb arall.

"Mae pawb yn canu, wrth gwrs, ond mae'n edrych fel eu bod yn ffugio canu."

Fel arfer mae'r côr yn ymarfer mewn darlithfa ym Mhrifysgol Abertawe ddwywaith yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Zoom
Disgrifiad o’r llun,

Y côr yn ffarwelio ar ddiwedd yr ymarfer

Eleni mae'r côr yn dathlu ei ben-blwydd yn 85, ac roedd yr 85 aelod wedi gobeithio cael canu mewn cyngerdd ym Mhorthcawl ym mis Mai ac yng Nghaerllion ym mis Gorffennaf.

"Roedd yna rai problemau i ddechrau a dyw e ddim yr un fath ag ymarfer go iawn, ond mae'n golygu nad ŷ'n ni'n colli gormod o amser ac fe fydd hi'n haws bwrw 'nôl iddi wedi misoedd o beidio gweld ein gilydd," ychwanegodd Mr Brown.

Lleddfu unigrwydd

Dywedodd cyfarwyddwr cerdd y côr, Joy Amman Davies, bod y dechnoleg yn cynnig rhyw fath o ymarfer ond yn fwy na hynny ei fod yn gyfle i bobl gymdeithasu.

"Mae rhai o aelodau'r côr yn byw ar ben eu hunain ac mae rhai ohonynt wedi colli eu gwragedd," meddai.

"Mae 'na deimlad da yng nghôr Treforys ac mae e fel un teulu mawr estynedig.

"Ry'n ni mor falch o weld ein gilydd ac ymarfer ein repertoire."

Y peth pwysig, ychwanegodd, yw "cadw cysylltiad" a "chadw'r ysbryd yn fyw".

Ffynhonnell y llun, Zoom
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adrian Walters wedi bod yn aelod o'r côr ers 33 mlynedd

Dywedodd Adrian Walters, 73, ei fod yn hollbwysig bod y côr yn parhau i ganu gyda'i gilydd.

"Mae llawer ohonom wedi bod yn canu rhai o'r caneuon yma am gyfnod hir - yn wir gallwn eu canu nhw yn ein cwsg," meddai.

"Ond mae'n cof yn pallu ac mae'n bosib i ni anghofio ambell nodyn fan hyn a fan draw - felly mae'n bwysig adolygu'n gyson - fel paratoi ar gyfer arholiad!"