Teyrngedau i lawfeddyg 'rhagorol' fu farw o coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Jitendra RathodFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jitendra Rathod wedi gweithio yn yr adran llawfeddygaeth cardio-thorasig ers canol y 90au

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i lawfeddyg calon blaenllaw yng Nghaerdydd fu farw â coronafeirws.

Roedd Jitendra Rathod yn arbennigwr mewn llawfeddygaeth cardio-thorasig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, bu farw yn y ward gofal dwys yn yr ysbyty.

Mewn teyrnged iddo ar eu gwefan, mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod 'Jitu' yn "lawfeddyg hynod ymroddgar oedd yn ofalgar iawn o'i gleifion".

"Roedd yn berson trugarog iawn ac yn ddyn arbennig. Roedd ei ymroddiad i'w arbenigedd yn rhagorol," meddai.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi gweithio yn yr adran llawfeddygaeth cardio-thorasig ers canol y 90au a'i fod wedi cael cyfnod byr dramor cyn dychwelyd yn 2006.

"Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr," meddai'r datganiad.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Meddygol Cymru y BMA eu bod yn cydymdeimlo'n ddwys â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Dr Rathod.

Fe ddywedodd y cadeirydd, Dr David Bailey, y bydd ei farwolaeth 'yn cael effaith ar y gymuned feddygol gyfan wrth iddyn nhw fynd i'r afael ag effaith ofnadwy covid-19 ar ein cymunedau.'