Cyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr yn dod i rym
- Cyhoeddwyd
Mae rheolau newydd yn dod i rym ddydd Mawrth sy'n gorfodi cyflogwyr yng Nghymru i sicrhau "camau rhesymol" er mwyn cadw eu staff o leiaf ddau fetr i ffwrdd o'i gilydd.
Y bwriad yw diogelu staff rhag haint coronafeirws.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, ei fod yn disgwyl i'r rheolau gael eu "hunan-orfodi" gan fusnesau.
Wrth egluro'r gorchymyn newydd ychwanegodd y Prif Weinidog: "Ni'n gwneud yn gyfreithiol y cyngor ni wedi rhoi i bobl yn barod dros y pythefnos diwethaf.
Cyfrifoldeb y cyflogwr
"Ni wedi clywed am ormod o bobl yn y gweithlu sy'n becso bod eu hiechyd a'u lles ddim yn cael eu gwarchod.
"Mae'r rheolau newydd 'ma yn dweud wrth bobl sy'n rhedeg y gweithlu i fod yn ofalus, i gymryd y camau rhesymol i warchod iechyd a lles y bobl.
"I fod yn glir - mae e lawr i'r cyflogwyr i gymryd y camau yma, a thrwy gymryd y camau yma, i fynd ymlaen â'u busnesau nhw."
Wrth i nifer o fusnesau holi ynglŷn ag ymarferoldeb y rheolau newydd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai cyngor pellach yn cael ei gyhoeddi ar gyfer cyflogwyr.
Mae'r rheolau hefyd yn gymwys i agweddau eraill o fywyd - er enghraifft, wrth ddod ar draws pobl y tu allan i'r swyddfa.
Fe awgrymodd Mr Drakeford nad oedd cadw at y pellter ymbellhau cymdeithasol dau fetr yn bosib ymhob sefyllfa ac mai pwyslais y gyfraith oedd sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu gweithredu gan gyflogwyr i sicrhau iechyd a diogelwch eu gweithlu.
"Ni yw'r cyntaf yn y DU i lunio'r gyfraith yma er mwyn gwarchod ein gweithwyr ac atal lledaeniad coronafeirws," ychwanegodd.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 7 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yn y cyfamser mae'r rheolau ynglŷn â phwy sy'n cael mynd i angladd wedi'u llacio ond mae'r rheol dau fetr yn golygu bod yna gyfyngu ar faint o bobl sy'n cael bod yn bresennol.
Llacio rheolau angladdau
Mae gan bobl hawl i fynd os ydynt wedi trefnu'r angladd, wedi eu gwahodd neu'n gofalu am rywun fydd yn bresennol ond bydd yn ofynnol i bobl gadw dau fetr oddi wrth ei gilydd.
Mae'r canllawiau newydd yn nodi hefyd y gall mynwentydd aros ar agor ond bod rhaid sicrhau pellter cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James: "Mae marwolaeth aelod o'r teulu neu ffrind yn brofiad trallodus iawn a dyna pam ein bod wedi llacio'r rheolau rywfaint er mwyn galluogi pobl i fod yn bresennol."
Mae hi wedi awgrymu hefyd y byddai'n syniad ffrydio rhai angladdau fel bod teulu ehangach a ffrindiau yn gallu bod yn rhan o'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020