Pryder y gall band pres golli arian am hediadau diangen

  • Cyhoeddwyd
Band Beaumaris yn cystadluFfynhonnell y llun, Band Beaumaris

Mae band pres o Ynys Môn yn wynebu colli miloedd o bunnoedd am hediadau i gystadleuaeth sydd wedi'i chanslo.

Roedd Band Ieuenctid Beaumaris wedi eu henwebu i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Band Pres Ewrop yn Palanga, Lithwania ym mis Mai.

Roedd wedi talu £9,050 fel blaendal am docynnau awyren i'w cludo yno, ond does dim modd cael yr arian hynny yn ôl am nad yw'r hediadau wedi'u canslo hyd yn hyn.

Mae cwmni awyrennau SAS yn mynnu y dylai'r band dalu gweddill yr arian am y tocynnau - £4,044 - gan wrthod cyfaddef bod yr hediadau'n debygol o gael ei chanslo.

Mae SAS yn dweud y byddai'r band yn cael ad-daliad llawn pe bai'r hediadau'n cael eu canslo.

'Lot o arian i ni'

Dywedodd ysgrifennydd y band, Gary Pritchard: "I bob pwrpas, maen nhw'n gofyn i ni dalu £4,000 i gael y cyfle o adennill £9,000.

"Ond os ydy'r hediadau'n mynd yn eu blaenau, fe fyddwn ni'n colli £13,000 - mae'r gystadleuaeth roedden ni i fod yn cystadlu ynddi wedi cael ei chanslo.

"Mae hyn yn lot o arian i ni - roedden ni'n gobeithio y byddai'r cwmni awyrennau yn cydymdeimlo ychydig yn fwy.

"Mae gennym ni group booking, a dwi'n delio gyda gwasanaethau cwsmeriaid ond yn mynd i unman."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan SAS, ond heb dderbyn unrhyw sylw.

Mewn sgwrs gyda'r band ar Twitter, dywedodd SAS: "Os ydych chi wedi prynu'r tocynnau ar ein gwefan, ac mae'r hediadau'n cael eu canslo, mae gennych chi'r hawl am ad-daliad llawn."