Arestio dynes am 'frathu a phoeri' at yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae dynes 24 oed o Bwllheli wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod ar bedwar heddwas a phoeri arnyn nhw gan honni bod ganddi Covid-19.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ddigwyddiad yn y dref brynhawn Mawrth.

Wrth geisio arestio'r ddynes dan sylw, dywedodd yr heddlu ei bod wedi brathu swyddog, ac ymosod ar ddau swyddog arall trwy eu gwthio a'u taro, gan achosi mân anafiadau.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd, lle mae'r heddlu'n dweud ei bod wedi pesychu a phoeri ar swyddogion wrth honni bod Covid-19 arni.

Mae'r swyddogion yn cael eu cefnogi gan reolwyr lleol a Ffederasiwn yr Heddlu.

Cafodd y ddynes ei harestio ar amheuaeth o 10 trosedd, gan gynnwys troseddau trefn gyhoeddus, pedwar ymosodiad yn erbyn gweithwyr brys a thorri cyfyngiadau Covid-19.