Symud bywyd arlein: Realiti newydd coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Rhian a Shuggie yn arddangos symudiad 'Galleon' yn acro-cydbwysedd.Ffynhonnell y llun, Rhian Halford
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hawdd, onest!

O wersi syrcas i wersi piano, o gampfa yn y tŷ i ysgol Sul, mae mwy a mwy o'n bywydau yn digwydd arlein.

Gyda disgwyl i gyfyngiadau cymdeithasol fod yn rhan o fywyd bob dydd am gyfnod eto, mae'r sialens o barhau gyda gweithgareddau arferol ein bywydau yn fwy-fwy heriol.

Ond, penderfynodd yr hyfforddwraig sgiliau syrcas Rhian Halford gynnig sesiynau yn dysgu sgiliau syrcas dros y we am ddim ar ôl cael ei gorfodi i gymryd saib o'i gwaith gyda syrcas No Fit State.

"O'n i eisiau 'neud rhywbeth i blant," meddai wrth egluro ei bod hi a'i mab pump oed, Shuggie, yn dangos i deuluoedd sut gall oedolyn a phlentyn wneud cydbwysedd acrobateg gyda'i gilydd.

Sgiliau acrobateg dros y we

Dydi hi ddim yn ennill ceiniog drwy'r sesiynau - ond yn gwirfoddoli fel ffordd o gadw cysylltiad â'r gymuned, a hefyd i geisio cadw'n ffit.

"Mae pawb o'r syrcas yn furloughed nawr, felly ma' pobl yn poeni bo' nhw'n mynd i golli cyhyrau - yn enwedig y rhai sy'n gwneud campau awyrol fel y trapeze artists. Mae nhw'n poeni byddan nhw'n colli cyhyrau yn eu dwylo nhw, achos mae'r grip mor bwysig a smo'n ni'n gwybod pa mor hir ma' hyn yn mynd i fynd mlaen!"

Gyda hi a Shuggie yn dangos sut i neud y symudiadau, mae Rhian yn sicr bod unrhyw beth yn bosib ac nad oes rheswm i beidio cynnal hyfforddiant dros y we.

"Mae rhaid i bobl glirio dodrefn mas o'r ffordd. Ni ddim yn neud dim byd dansheris a ma' rhaid i bawb gytuno o flaen llaw mai nhw sy'n gyfrifol ar ddiwedd y dydd."

Y peth mwya sy'n poeni Rhian yw os bydd Shuggie yn hapus i ddal ati - fel bob plentyn arall, mae bod yn sownd yn y tŷ cyhyd yn her!

Campfa ar-lein

Nid dim ond perfformwyr syrcas sy'n pryderu am golli ffitrwydd. Mae gym bunnies dros y wlad hefyd yn gweld eisiau'r cyfle i chwysu yn y gampfa. Ond mae un gampfa ym Mhorthmadog wedi benthyg llawer o'u hoffer i'w haelodau ac yn dal ati i gynnal sesiynau tebyg i cross fit dros y we.

Ffynhonnell y llun, Idan Williams

Fel un o'r aelodau oedd yn mynd o leiaf dair gwaith yr wythnos, mae Heulwen Williams yn ddiolchgar.

"Mae nhw wedi bod yn ofnadwy o dda efo ni," medd Heulwen am berchnogion Gym Yard 6 ym Mhorthmadog.

"Dwi 'di mynd â bocs adre a medicineball yn ogystal â kettle bell.

"Mae rhei pobl wedi cael offer rhwyfo a be' ma' nhw'n 'neud ydi rhoi workout of the day ar y wefan bob dydd efo fersiynau gwahanol. 'Dio'm bwys os oes gen ti ddim yr offer i gyd. Gyn pawb bwyse'r corff, felly mae'n reit flexible."

Cadw'n heini

Yn ôl Heulwen un o'r peth gorau yw gallu cadw ffitrwydd a theimlo'n rhan o gymuned y gym o hyd: "Mae 'na ochr gystadleuol i cross fit. Mae pobl yn cefnogi ti mewn modd positif, yn dy herio di, a 'da ni'n 'neud o'n ddigidol 'wan.

"Odd 'na deimlad o gymuned yn y gym a rŵan dwi'n gwybod os dwi'n unig gaf i fynd ar Zoom a gweld pobl yn 'neud y workout. Ma' lot o bethe ar-lein i helpu chi. Ma' pawb yn teimlo'n ddiolchgar bo' nhw 'di rhoi benthyg yr offer i ni, a ma' pawb isho cario 'mlaen i dalu'r tâl aelodaeth!"

Gwersi piano ar-lein

Doedd Lynnsey Coull Gwynedd ddim yn credu y byddai gwersi piano dros y we yn gweithio. Mae wedi bod yn athrawes piano ers dros bymtheg mlynedd.

"Bod yna efo'r plant a 'neud iddyn nhw deimlo'n dda am beth maen nhw'n gallu 'neud oedd yn bwysig i fi yn fy ngwersi. O'n i ddim yn dallt sut o'n i'n mynd i allu cyfleu'r un teimlad drwy ryw declyn. A dwyt ti ddim!"

Serch hynny, mae wedi newid ei meddwl.

Ffynhonnell y llun, Lynnsey Coull Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Lynnsey weld dwylo'r disgyblion ar yr allweddell

Mae hi'n gofyn i'r disgyblion roi'r cyfrifiadur lle byddai hi fel arfer yn eistedd ac maen nhw yn ei chlywed yn dod o'r un lle. Mae hefyd yn bwysig ei bod hi'n gallu gweld dwylo'r plant ar yr allweddell, mae hi wedyn yn dilyn y copi o'i chartref hi.

"Mae 'di gweithio! Mae'n ddoniol sut maen nhw'n troi'r copïau ata i. Ma' nhw mor gyfarwydd â fideos ar youtube ac ati, maen nhw'n pros! Yn y gwersi arferol ma'r rhai ifanc yn cael pawen lawen ar ôl gorffen darn, a 'nath un droi at y sgrin a 'neud o'n naturiol! Odd o'n lyfli!"

Ond, mae'n cyfaddef mai gwersi arferol sydd orau ganddi a'i bod yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'r drefn arferol wedi i'r cyfnod yma ddod i ben.

"Fel dwedodd un o'r disgyblion - mae'n dda, ond nid fel 'go iawn.' Mae'n rhywbeth dros dro i allu cadw nhw i fynd a 'neud rhywbeth oddi ar y sgrin pan maen nhw'n ymarfer a mynegi eu teimladau hefyd. Mae cerddoriaeth jyst yn llesol."

Ysgol Sul rhithiol

Cadw cymuned rhwng plant oedd y nod wrth symud Ysgol Sul Capel y Crwys yng Nghaerdydd ar-lein dros gyfnod y cyfyngiadau cymdeithasol. Mae criw o rieni a phlant yn cwrdd dros y we bob bore Sul ac yn gwneud gweithgareddau gyda'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bisgien a Sgwash, jyst fel yn yr Ysgol Sul go iawn

"Un peth oedd yn bwysig i ni drwy'r cyfnod yma oedd cadw cymuned yr Ysgol Sul i fynd, a rhoi strwythur i benwythnosau'r plant," medd Hannah Thomas un o'r arweinwyr, a mam i Gwenno, 7 a Manon, 10 oed. Maen nhw yn cwrdd â nifer o deuluoedd yr Ysgol Sul dros wefan lle gall pawb weld ei gilydd mewn grŵp.

"Ni dal yn y cyfnod arbrofol, ond ni'n rhoi cyfle i bawb gymryd rhan. Ni'n rhannu deunyddiau ar e-bost o flaen llaw ac yna yn darllen, 'neud gweithgareddau yn annibynnol, yna'n canu a dweud gweddi ar y diwedd.

"Ni wedi cael adborth da iawn, ac mae jyst yn hyfryd i weld pawb!"