Llanast lladron yng Nghapel Salem, Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Llanast yng Nghapel Salem, CaernarfonFfynhonnell y llun, @mereridmair

Mae aelodau Capel Salem yng Nghaernarfon yn apelio am wybodaeth wedi i ladron dorri mewn i'r adeilad a gadael llanast ar eu hôl.

Yn ôl y Parchedig Mererid Mair Williams, un o weinidogion y capel, mae'r lladron wedi dwyn offer system sain ac achosi difrod i styllau pren y llawr a drysau'r adeilad.

Fe ddisgrifiodd y Parch. Williams y difrod ar wefan Twitter: "Mae'r lladron wedi dwyn system sain y capel; meicroffonau, ceblau, desg gymysgu, a hanner cit drymiau.

"Maent wedi difrodi drysau a codi 'floorboards' mewn rhai llefydd."

Ychwanegodd bod swyddogion fforensig yr heddlu wedi bod i'r safle, a diolchodd am eu "cefnogaeth a'u sylw".

Difrod yng nghapel Salem, CaernarfonFfynhonnell y llun, @mereridmair

Ar adeg anodd eisoes, mae'r Parch. Williams yn cydnabod bod y lladrad wedi achosi digalondid pellach.

"Mae o'n rhwystredig. I gael hyn yn digwydd ar ben popeth arall. I be', 'de? Ond does dim pwynt rhesymu mae'n siwr."

Fel arfer, fe fyddai 60 o aelodau'n cwrdd yn y capel bob Sul, yn ogystal â gweithgareddau wythnosol, ond cafodd yr adeilad ei gau ym mis Mawrth oherwydd y cyfyngiadau cymdeithasol presennol.

Mae'r aelodau'n derbyn gwasanaeth wythnosol ar ebost ac mae'r ysgol Sul yn cyfarfod dros Zoom hefyd.

Lladron wedi gadael llanast yng nghapel Salem, CaernarfonFfynhonnell y llun, @mereridmair

Roedd yr adeilad wedi cael ei ddiheintio a'i lanhau'n drylwyr yn barod i'w ail-agor wedi i'r argyfwng ddod i ben. Ond nawr, mae'n aneglur pryd fydd modd tacluso'r holl annibendod.

"Mae'n deimlad digalon. A'r peth mwyaf rhwystredig mae'n siwr ydy ar adeg normal, basai pawb wedi bod yno a phawb yn cael trefn.

"Ond, 'da ni'n mynd i adael y lle am bythefnos. Oherwydd ffordd mae pethau ar hyn o bryd, 'da ni ddim yn gwybod beth sydd wedi cael ei gyffwrdd.

"'Da ni ddim yn mynd i allu mynd yno tan bod y lle yn ddiogel. Dwi wir yn teimlo dros yr ofalwraig, achos roedd y lle y spotless cyn hyn."

Fe dynnodd y lladron hen luniau o'r diaconiaid a'r gweinidogion i lawr o'r waliau, a'u gosod yn daclus ar y llawr, a difrodi ystafelloedd y bobl ifanc yng nghefn y festri.

Mae'r heddlu a swyddogion fforensig wedi bod yno yn ymchwilio, ac arweinwyr y capel yn dweud eu bod yn ddiolchgar tu hwnt am eu hymateb, tra bod adnoddau'n brin yn sgil Covid-19.

"Rydym yn diolch i'r heddlu sy'n gweithio i geisio dal y lladron. Ond yn y cyfamser, os gwelodd rywun unrhyw beth amheus o amgylch Salem yn ddiweddar ac os clywch am rywrai yn ceisio gwerthu offer sain, plis cysylltwch."