Nodi pen-blwydd yn 91 trwy efelychu camp Capten Moore
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Silian ger Llanbedr Pont Steffan yn bwriadu ceisio efelychu campau'r Capten Tom Moore o Swydd Efrog, trwy gerdded o gwmpas ei gartref 91 o weithiau ar achlysur ei ben-blwydd yn 91 oed.
Mae'r Capten Moore, 99 oed, wedi codi dros £18m ar gyfer y gwasanaeth iechyd.
Mae Rhythwyn Evans o fferm Tan y Graig wedi byw yn yr ardal erioed, ac mae'n troi'n 91 oed ddydd Sadwrn.
Fe benderfynodd godi arian ar-lein i'r rheini sydd yn trin pobl â coronafeirws er mwyn dangos ei "werthfawrogiad" o'r gwaith mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud.
Mae cronfa ar-lein wedi cael ei sefydlu i gyd-fynd â'r pen-blwydd, gyda'r arian yn mynd at elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Dywedodd Mr Evans: "Mae'r coronafeirws wedi effeithio pawb yn yr ardal hyn.
"Roedd rhaid trio gwneud rhywbeth er gwerthfawrogiad i'r doctoriaid a'r nyrsys a phawb oedd ynglŷn â'r bwrdd iechyd yn yr ardal.
"Roedd rhaid dangos ein gwerthfawrogiad drwy wneud rhywbeth."
'Gwirioneddol ddiolchgar'
Mae ei wraig, Gwyneth, yn falch iawn o ymdrechion ei phriod.
"Wy'n teimlo yn browd iawn bod y teulu wedi penderfynu i wneud hyn a bod Rhythwyn yn ddigon iach ac abl i gerdded o gwmpas y tŷ 91 o weithiau ar gyfer achos mor deilwng," meddai.
Dywedodd Sarah Jennings o Fwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "wirioneddol ddiolchgar i Mr Evans".
"Mae hyn yn rhywbeth mor anhygoel i'w wneud wrth ddathlu pen-blwydd arbennig ac rydyn ni'n diolch i Mr Evans a'i gefnogwyr am helpu ariannu eitemau allweddol sydd eu hangen ar gyfer lles staff a gwirfoddolwyr," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020