Arestio dyn dan y ddeddf derfysgaeth yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Gwrth-Derfysgaeth yn ardal Cyncoed, CaerdyddFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae'r heddlu wedi arestio dyn ugain oed yng Nghaerdydd o dan y ddeddf derfysgaeth.

Cafodd y dyn ei arestio mewn tŷ yn ardal Cyncoed toc wedi 7 y bore ar ddydd Sul, wedi i breswyliwr fynegi pryderon.

Yn ôl Heddlu'r De, mae'r dyn hefyd yn cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o ymosod ar swyddog heddlu.

Heddlu yng Nghyncoed ar ôl arestio dyn dan y ddeddf derfysgaethFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae wedi cael ei gludo i orsaf heddlu Bae Caerdydd, ac mae safle'r drosedd wedi'i amgylchynu tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.