Batman y Bala yn camu i'r adwy mewn argyfwng

  • Cyhoeddwyd
Wayne Evans a Ceri OwenFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Evans a Ceri Owen yn rhoi g-wayne ar wynebau rhai o drigolion Y Bala

Mae o wedi bod yn gefn ar adegau anodd i gymunedau o Gotham City i Peckham, ac rŵan mae Batman yn codi calonnau yn Y Bala hefyd.

Mae'r arch-arwr wedi camu i'r adwy yn ystod yr argyfwng coronafeirws i roi gwên ar wynebau trigolion stad Yr Hafan yn y dref.

Wayne Evans ydi enw go iawn yr arwr yma - nid Bruce Wayne, fel yn yr hen gyfres deledu - a Ceri Owen, nid Robin, ydi enw ei bartner.

Mae'r ddau wedi dechrau blog nosweithiol i helpu pobl i "anghofio am eu pryderon", ac mae Wayne yn mynd rownd y stad mewn gwisg Batman i ddifyrru'r plant ieuengaf.

Siarad am eu pryder

Eglurodd Ceri fod y syniad wedi codi wrth i'r ddau drafod sut allen nhw helpu'r gymuned ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i rym.

"Mae o'n frawychus beth sy'n digwydd i bawb a phawb yn sownd yn y tŷ, a'r gofid i bawb, a dyma Wayne a finne'n trafod beth allen ni neud i godi calonnau pobl," meddai.

"Dyma benderfynu rhoi blog i fyny... fideo i siarad am y lockdown ac os oes unrhyw un isio siarad am y pryder, unrhyw beth y gallwn ni 'neud i helpu o fewn ein gallu yna byddwn ni yna.

"Fe ddaeth y Batman wedyn o feddwl am y plant. Mae'n anodd i'r plant - dydyn nhw ddim yn dallt beth sy'n mynd ymlaen."

Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, meddai, a'r blog 10 munud nosweithiol yn gyfle i bawb fwynhau ac "anghofio am bob dim jyst am y pwt 10 munud yna".

"Mae o'n neis ofnadwy - y petha' positif allan o hyn i gyd, stopio i siarad, a chardiau hyd yn oed yn dod i ni i ddiolch i ni am godi calonnau."

Y gymuned yn diolch

Dywedodd rhai o drigolion Yr Hafan eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion Wayne a Ceri.

"Mae o'n codi calonnau pawb yn Yr Hafan 'ma ac mae o'n syniad da iawn be' maen nhw'n wneud," meddai Sian Jones.

"Mae'r plantos bach wrth eu bodd - maen nhw'n codi calonnau pawb chwarae teg i'r ddau."

Dywedodd cymydog arall, Michelle Gregory: "Mae'n anhygoel. Mi ddechreuodd y peth fel jôc rili, ac mae o wedi mynd yn beth mawr.

"Dydan ni ddim yn gwybod pryd mae hyn [coronafeirws] yn mynd i stopio, so mae hyn yn beth da i gadw ni fynd."

Ychwanegodd Llion Jones: "Mae o'n codi calon y stad i gyd, ac yn cadw'r gymuned i fynd ar adeg anodd."