Dim camau yn erbyn dyn wedi arestiad 'terfysgaeth'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Gwrth-Derfysgaeth yn ardal Cyncoed, CaerdyddFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu gwrth-derfysgaeth yn ardal Cyncoed, Caerdydd ddydd Sul

Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau dyn 20 oed o Gaerdydd a gafodd ei arestio yn ardal Cyncoed fore Sul dan y Ddeddf Terfysgaeth.

Bydd dim camau pellach yn erbyn y dyn mewn cysylltiad ag unrhyw droseddau terfysgol, medd y llu.

Ond tra yn y ddalfa, cafodd yr unigolyn ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â'r Ddeddf Deunyddiau Ffrwydrol a'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad barhau i'r materion hynny.