Wyna yn cadw'r rhedwr Dewi Griffiths yn brysur

  • Cyhoeddwyd
Dewi GriffithsFfynhonnell y llun, Getty Images

Fel miloedd o redwyr eraill, roedd Dewi Griffiths wedi bwriadu rhedeg ym marathon Llundain dros y Sul.

Ond mae'r ras ymysg y digwyddiadau chwaraeon sydd wedi eu gohirio oherwydd argyfwng coronafeirws.

Yn hytrach na pharatoi ar gyfer y marathon a cheisio sicrhau ei le yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, mae Dewi wedi bod yn cadw'n brysur ac chadw'n heini ar y fferm deuluol yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y Cymro 28 mlwydd oed wedi gobeithio rhedeg amser a fyddai wedi sicrhau lle iddo yn nhîm Olympaidd Prydain.

Gyda'r gemau wedi eu gohirio am flwyddyn, dywed Dewi bod hynny yn rhoi cyfnod estynedig iddo sicrhau yr amser sydd ei angen.

"Ro'n i'n amlwg yn edrych ymlaen at marathon Llundain, hyd yn oed os na bydden i wedi rasio," meddai Griffiths.

"Bydden i'n edrych 'mlan i'w wylio fel bydden i yn ei wneud pan yn blentyn.

"Mae'n od bod e ddim yn cael ei gynnal ond dyna'r byd ry'n ni byw ynddo ar y foment a so ni'n siŵr beth i ddisgwyl yn y misoedd sydd i ddod.

"Gyda'r Gemau Olympaidd wedi symud i flwyddyn nesaf mae 'na chwe, wyth mis 'da fi yn awr i weithio yn galed.

"Wi'n gobeithio cael yr amser wi angen i gyrraedd yna cyn diwedd y flwyddyn neu dechrau flwyddyn nesaf ac wedyn edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd haf flwyddyn nesaf.

"Gobeithio gallai gael yr amser sydd eisiau arnai."

Cyfnod anodd

Byddai sicrhau lle yn y Gemau Olympaidd yn hwb mawr i Dewi Griffiths wedi iddo fethu cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018 oherwydd anaf a Phencampwriaeth Athletau'r Byd y llynedd yn dilyn salwch.

Mae Dewi wedi bod yn cadw'n brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf ar y fferm deuluol yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin.

"Mae hi wedi bod yn eitha bishi gyda wyna," ychwanegodd Dewi Griffiths.

"Sai wedi cael amser i feddwl am beth sydd yn digwydd yn y byd i gyd ac o ddydd i ddydd.

"Mae'n gyfnod anodd a chyfnod does neb wedi gweld o'r blaen.

"Gobeithio mewn cwpwl o wythnosau i fisoedd bydd popeth yn dechrau mynd yn ôl i normal ac y gallai edrych ymlaen i rasio."