Syndod Owain Wyn Evans am ei fideo drymio feiral

  • Cyhoeddwyd
Owain a'i ddrymiau yn y ty

Mae un o gyflwynwyr tywydd mwyaf poblogaidd y BBC wedi bod yn siarad am ei syndod am yr ymateb i fideo ohono yn drymio i fiwsig agoriadol rhaglenni newyddion y gorfforaeth.

Union bythefnos nôl, fe bostiodd Owain Wyn Evans fideo o'i hunan fel pe bai yn gorffen bwletin tywydd, cyn rhuthro i chwarae'r drymiau i'r gerddoriaeth ar y bwletin newyddion yn union wedyn.

Mae'r neges ar wefan Twitter wedi cael ei hoffi 188.5K o weithiau erbyn hyn, a'r fideo wedi'i weld ar Facebook dros bum miliwn o weithiau hefyd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Owain Wyn Evans

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Owain Wyn Evans

"Odd dim syniad gyda fi bydde fe'n mynd cweit mor viral a mae e wedi mynd," medd Owain, sydd o Rydaman yn wreiddiol, ond bellach yn byw ac yn gweithio o'i gartref yn Leeds.

Fe yw prif gyflwynydd tywydd i raglen newyddion BBC North West Tonight.

"O fewn pump awr, odd e wedi cael shwt gyment o likes a retweets, nath e ddechre mynd yn viral wedyn. Nath e symud yn gyflym rownd y byd."

Mae'n disgrifio pa mor swreal yw hi i fod wedi cael cyfweliadau gan gyflwynwyr mor bell â Japan a chan raglenni newyddion fel CNN yn America.

"Odd cyflwynydd tywydd ABC news yn Awstralia, Nate Byrne, nath e tweeto fe ac odd e jyst mor ffab pa mor glou odd e jyst wedi mynd yn hollol bonkers."

Ers i'r fideo gael ei gyhoeddi mae wedi cael sylw ar lu o raglenni yn cynnwys y Coronavirus Newscast, a rhaglen Steve Wright ar Radio 2 - lle bu'n drymio i gerddoriaeth thema'r rhaglenni.

Ysbrydoli eraill i gymryd rhan

Mae hefyd wedi ysgogi o bosib un o fandiau mwya'r byd - Owain's Big House Band - fel rhan o ymgyrch y BBC i uno cymunedau ynghanol argyfwng ar raglen Make a Difference.

Fe anfonodd dros 500 o bobl fideos i geisio cymryd rhan yn y band drwy chwarae offerynnau mor amrywiol â tharo sosbenni i drwmped yn y bath i gyfeiliant cerddoriaeth newyddion y BBC.

I Owain mae'n "deimlad bizarre ond ffab" bod cymaint o bobl eraill wedi'u hysbrydoli i'w efeilychu, yn cynnwys cyflwynydd newyddion S4C, Steffan Griffiths. Aeth e ati i ddrymio i gerddoriaeth rai o'i hoff raglenni S4C, yn cynnwys Heno a C'mon Midffild.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Steffan Griffiths

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Steffan Griffiths

"Un peth oedd yn glir o'r holl broses bo' fe jyst wedi 'neud i bobl wenu, ac roedd pobl wedi lico fe a neud iddyn nhw 'werthin achos bo' fe mor bizarre a mor camp."

A dyna mae Owain yn credu oedd apêl y fideo.

Ar y diwrnod y cafodd y fideo ei gyhoeddi, roedd argyfwng coronafeirws ar ei anterth ym Mhrydain. Bu farw o leiaf 778 o bobl y diwrnod hwnnw, gan gynyddu nifer y meirw i 12,107 o bobl. Roedd rhan fwyaf pobl Prydain wedi cael eu cyfyngu i'w cartrefi ers mis.

Roedd gweld dyn smart mewn siwt yn chwarae cerddoriaeth y rhaglen oedd wedi bod yn dod â chymaint o newyddion drwg i bawb wedi codi calonnau yn fwy na'r disgwyl.

"Nes i campo fe lan mwy nag arfer cyn mynd i ware'r dryms 'na achos mae'n fwy o jolt wedyn ondyw e?" Mae Owain yn cyfaddef, "Ti'n gweld y dyn hyn 'da gwallt stylised mewn siwt - ti ddim yn dishgwl iddo fe ware'r dryms fel 'na!"

Diolch i'w rieni

Mae'n cyfaddef ei fod wedi ystyried ddwywaith cyn postio'r fideo ar ôl derbyn negeseuon beirniadol a homoffobaidd ar gyfryngau cymdeithasol yn y gorffennol.

"Ti byth yn gwybod shwt bydd pobl yn ymateb, ond mae'r fideo 'ma mor rhyfedd mewn un ffordd a jyst yn ddoniol! Mae wedi codi calonnau pobl mewn ffordd o'n i ddim yn dishgwl ar adeg rili trist a rili scary."

Ond mae ei rôl yn codi ysbryd pobl gyda'i dalent drymio wedi llonni ei rieni nôl yn Rhydaman hefyd.

"Mae nhw wrth eu bodde ac wedi dilyn fi yr holl ffordd ar hyd y daith 'ma. Diolch iddyn nhw bo fi'n ware'r dryms o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Owain Wyn Evans

Mae'n disgrifio sut iddo ddechrau chwarae'r drymiau yn wyth oed, a'i rieni'n yn amyneddgar tu hwnt a hyd yn oed yn ei annog i chwarae offeryn mor swnllyd yn y tŷ.

Fe ddysgodd e'i hunan i chwarae fwy neu lai, a dyw e dal ddim yn darllen cerddoriaeth.

Bu'n chwarae mewn bandiau nes dod yn gerddor rhannol broffesiynol yn 18 oed, tan iddo gael swydd yn cyflwyno rhaglen newyddion y BBC i blant, Ffeil. Dyna pryd aeth drymio nôl i fod yn hobi.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Owain yn drymio mewn stiwdio recordio pan yn tua 18 oed

Yn ddiweddar, bu'n ffilmio rhaglen Iaith ar Daith i S4C fel mentor i Carol Vorderman cyn i'r argyfwng ddechrau. Ar ddydd Sul fe ddechreuodd gyflwyno rhaglen radio newydd ar BBC Five Live gyda Helen Skelton tra bod dim chwaraeon yn digwydd.

Mae'n dweud ei fod wedi dwlu helpu Carol i ddysgu Cymraeg a'i fod yn falch i gael rhan yn hybu'r Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Carol ac Owain yn ffilmio ar 'Iaith ar Daith' S4C

"Fi'n siarad Cymraeg bob dydd ar y ffôn gyda Mam a Dad ac mae'r iaith wir yn bwysig i fi. Un diwrnod bydden i'n lico symud nôl i Gymru, a bryd 'ny fi'n siwr bydd Arran fy ngŵr yn dysgu'r iaith yn rhugl.

Mae e wedi dysgu lot yn barod!"

Ond am nawr, mae lle teilwng i'r cit drymiau yn stafell fyw Owain unwaith eto, ac mae e jyst eisiau joio'r profiad anhygoel o fod yn seren feiral byd-eang,

"Hyd yn oed nawr, pythefnos ar ôl ei gyhoeddi e - fi dal yn cael cannoedd o notifications [ar y cyfryngau cymdeithasol] y dydd!"

Hefyd o ddiddordeb: