300 o gleifion Covid-19 wedi cofrestru am dreialon

  • Cyhoeddwyd
Profion
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyffuriau sy'n cael eu defnyddio i drin HIV a malaria yn rhan o'r treial

Mae dros 300 o gleifion Covid-19 yng Nghymru wedi eu cofrestru hyd yn hyn ar gyfer treialon i ddod o hyd i gyffuriau sy'n gallu delio â'r feirws yn effeithiol.

Recovery ydy enw'r prosiect dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, ac mae modd i gleifion mewn 16 o ysbytai Cymru gymryd rhan.

Ymhlith y triniaethau dan ystyriaeth mae steroidau a chyffuriau sy'n cael eu defnyddio i drin HIV a malaria.

Mae pedwar bwrdd iechyd hefyd yn cynnal treialon gwahanol sy'n canolbwyntio ar gleifion gofal dwys.

Y cyffuriau sy'n cael eu defnyddio yn y treial Recovery ydy:

  • Lopinavir-Ritonavir - sy'n cael ei ddefnyddio i drin HIV;

  • Dexamethasone - math o steroid sy'n cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd;

  • Hydroxychloroquine - tebyg i gyffur sy'n cael ei ddefnyddio i drin malaria;

  • Azithromycin - gwrthfiotig cyffredin;

  • Tocilizumab - triniaeth sy'n atal chwydd.

Mae mwyafrif byrddau iechyd Cymru'n cymryd rhan yn nhreial Recovery, sy'n cael ei gynnig i oedolion sydd yn yr ysbyty â Covid-19, ac maen nhw yna'n derbyn un o'r triniaethau uchod.

Mae 317 o gleifion eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun.

Mae set arall o dreialon o'r enw Remap-Cap eisoes yn cael ei sefydlu ym mhedwar o'r byrddau iechyd.

Imperial College London sy'n arwain ar y cynllun yn y DU, sy'n cynnwys profi triniaethau gwahanol ar gleifion sydd mewn unedau gofal dwys gyda niwmonia.

Mae'r ddau dreial yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru, ger Ysbyty Maelor Wrecsam.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr David Southern bod rhai o'r triniaethau yn edrych yn addawol

"Dyma'r her fwyaf i mi ei weld yn fy ngyrfa feddygol 30 mlynedd," meddai'r ymgynghorydd sy'n arwain y cynllun yn Wrecsam, David Southern.

"Dyma'r her fwyaf i'n cymuned ers yr ail ryfel byd - yr haint mwyaf ers 100 mlynedd."

Dywedodd Dr Southern bod rhai o'r triniaethau yn edrych yn addawol ond nad oes unrhyw sicrwydd y bydd triniaeth effeithiol yn cael ei ganfod.

"Mae'n debygol y bydd cyfuniad o gyffuriau'n cael eu defnyddio," meddai.

Mae'r corff sy'n goruchwylio treialon clinigol yng Nghymru yn "annog sefydliadau ac ymchwilwyr yng Nghymru i ymateb i'r angen brys am ymchwil".

"Ry'n ni'n wynebu her ddigynsail wrth i ni geisio taclo gwasgariad Covid-19," meddai cyfarwyddwr iechyd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe.

"Mae'n bwysig ein bod yn gallu defnyddio ein gallu i gasglu tystiolaeth amserol allai arwain at y driniaeth a'r gofal fwyaf effeithiol, ac yn y pendraw - brechlyn."