'Hwb' i dechnoleg iaith o gael Alexa yn dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae prif ddatblygwr meddalwedd technoleg iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio bydd y sylw i Alexa'n dysgu Cymraeg yn prysuro'r gwaith o ddatblygu seinydd clyfar cyfan gwbl Gymraeg.
Er mwyn gwneud hynny mae'n dweud bod angen cynifer â phosib o wirfoddolwyr i recordio'u llais er mwyn helpu datblygu meddalwedd newydd.
Mae ap Macsen eisoes yn bodoli ond yn ôl Dewi Bryn Jones o Ganolfan Bedwyr, dydych chi siŵr o fod ddim wedi clywed amdano eto, gan nad yw wedi cael ei lansio'n swyddogol.
"Mae gan Macsen chwech sgil, tra mai dim ond un sgil Cymraeg sydd gan Alexa ar hyn o bryd," meddai.
"'Dach chi'n gallu gofyn iddo fo ddeud y tywydd, deud y newyddion ac mae o'n gallu chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar Spotify hefyd."
Mae'r cynhyrchwyr yng Nghanolfan Bedwyr yn gobeithio bydd y newyddion bod Alexa'n dysgu Cymraeg yn annog pobl i gyfrannu eu lleisiau i gynllun 'Common Voice' i helpu datblygu rhagor o feddalwedd sain iaith Gymraeg Newydd.
"Y cam cyntaf ar y lôn o Gymraeg yn dod ar gael o fewn technoleg ydi'r Alexa Cymraeg," medd Mr Jones.
"Er mwyn cyrraedd y nod, mae angen mwy o ddata o enghreifftiau o bobl yn siarad Cymraeg. Felly, cyfrannu lleisiau i Common Voice fyddai'r ffordd orau o wneud hynny."
Llai o'r 'heniaith'
Fel un sy'n rhan o dîm o arbenigwyr technoleg iaith ym Mhrifysgol Bangor, mae Mr Jones yn dweud bod datblygu technoleg iaith Gymraeg yn hanfodol i'r dyfodol.
"Mewn pum mlynedd, fydd plant yn darllen y we, neu'n siarad efo'r we? Mae'n gwestiwn mawr iawn," meddai.
"Os nad ydyn ni'n gweithredu rŵan, bydd y Gymraeg a'r cymunedau Cymraeg dan anfantais mawr."
Er mwyn i'r meddalwedd fod yn effeithiol mae angen llyfrgell fawr o leisiau pobl. Mae Canolfan Bedwyr yn gweithio ar y cyd â Mozilla a gwirfoddolwyr er mwyn datblygu'r meddalwedd.
Does dim ffws wedi'i wneud am Macsen hyd yn hyn, gan mai technoleg arbrofol yw e o hyd.
"'Dan ni ddim wedi cyhoeddi llawer ar hyn o bryd," meddai Dewi Bryn Jones.
"Mae ar gael ar yr app store ac ar Android ond 'dan ni ond wedi neud soft release ar hyn o bryd, gan ein bod ni ofn y bydd pobl yn ei ddefnyddio fo a d'eud ei fod o'n rybish.
"Ond 'dan ni angen i early adopters ei ffeindio fo, a rhoi adborth i ni."
Yn ôl yr ymgynghorydd digidol, Huw Marshall, sy'n ddefnyddiwr brwd o Alexa, dyw Macsen ddim yn agos at fod fel Alexa eto.
"Efo Alexa, mae'n system sy'n nabod bob gair yn Saesneg," meddai. "Mae o'n medru clywed y llais a troi hwnna mewn i fersiwn digidol o'r geiriau, ac ma' hwnna'n bwydo mewn i beiriant chwilio wedyn.
"'Dan ni dipyn o'r ffordd o 'na o ran datblygu'r ochr Gymraeg."
Gwerth masnachol
Mae Huw Marshall yn dweud y byddai cwmnïau technoleg yn gallu datblygu meddalwedd i adnabod y Gymraeg, ond nad ydyn nhw'n ystyried bod gwerth masnachol iddyn nhw wneud hynny.
"Dyna yw'r broblem sy'n wynebu ieithoedd lleiafrifol ar hyn o bryd, 'dan ni ddim yn ddigon o faint ar hyn o bryd i fusnesau ein gweld ni fel cynllun sy'n mynd i neud elw iddyn nhw yn y pendraw," meddai.
"'Di o ddim jyst yn fater i'r Gymraeg. Ti'n edrych ar wledydd fel Gwlad yr Iâ.
"Mae'n wlad efo'i iaith ei hun, ond oherwydd y nifer siaradwyr maen nhw'n poeni rŵan bod pobl yn troi at Saesneg. Mae pobl yn gweld Saesneg fel iaith i gyfathrebu efo technoleg."
Hyd yn oed yn ei gartref ei hun, mae Huw yn sylweddoli bod y Gymraeg yn fregus. Mae ei blant yn siarad â'r teledu er mwyn dod o hyd i'w hoff raglenni.
"Dydyn nhw ddim yn gallu ffeindio cynnwys Cymraeg achos 'di'r teledu ddim yn dallt Cymraeg. Hyd yn oed os o'ddan nhw isio ffeindio Deian a Loli dydi Apple TV ddim yn gallu ffeindio fo."
Barn Huw Marshall yw y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi llawer mwy mewn technoleg adnabod iaith a dwyn perswâd ar gwmnïau masnachol i weld y budd mewn datblygu technoleg iaith yn y Gymraeg.
"Mae beth mae Canolfan Bedwyr yn 'neud yn grêt, ond nid datblygu busnes maen nhw. Tasech chi'n rhoi mwy o arian iddyn nhw basen nhw'n gallu neud lot mwy.
"Mae angen cyhoeddi strategaeth o ran technoleg iaith. Ma 'na wishlist - ond ma' rhaid cael strategaeth yn cynnwys cyllideb ac amserlen. A dyna pam rwy'n meddwl bod rhaid mynd lawr y lôn masnachol."
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi yn ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg, sy'n cynnwys gwaith i ddatblygu adnabod llais Cymraeg."
Yn y cyfamser, gobaith criw technoleg iaith Canolfan Bedwyr yw y bydd Cymry Cymraeg yn defnyddio'u hamser adref yn yr argyfwng coronafeirws i recordio'u lleisiau a helpu'r Gymraeg i ddod gam yn nes at fod yn wir iaith technoleg fodern.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018