Apêl wedi lladrad anifeiliaid o ddau leoliad yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Credir i'r defaid gael eu dwyn o'r tir yma nos Lun olaf Ebrill
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos o ddwyn anifeiliaid o dir ar gyrion Y Bala a Phwllheli yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd dros 100 o ddefaid ac ŵyn eu dwyn o Langywer ger Y Bala nos Lun, 27 Ebrill ac mae plismyn yn ymchwilio wedi i bedair buwch gael eu dwyn o Bencaenewydd ger Pwllheli nos Iau, 30 Ebrill.
Credir i'r defaid gael eu dwyn o Langywer rhywbryd rhwng 07:30 nos Lun diwethaf a'r bore canlynol.
Diflannodd oddeutu 50 o ddefaid a dros 50 o ŵyn - oll yn ddefaid traddodiadol Cymreig.
Colled ofnadwy
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Rhodri Jones, y perchennog, ei fod yn golled ofnadwy.
"Roedden nhw'n ddefaid cynefin organig - cyple ifanc yn eu preim," meddai. "Allai ddim rhoi pris arno fo - mae'n llanast a dweud y gwir."

"Roedd y defaid," meddai'r perchennog Rhodri Jones, "yn ddefaid cynefin organig"
Mae tîm troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio.
Wrth gyfeirio at y digwyddiad ger Y Bala, dywedodd un o aelodau'r tîm, Rhys Evans: "Mae'n ardal wledig... mae'n adeg mor ddistaw a does yna ddim llawer o draffig o gwmpas i allu symud cymaint o ddefaid ac ŵyn.
"Buasai'n rhaid cael lori neu Land Rover a trelar go fawr i gario'r anifeiliaid i gyd.

Mae Rhys Evans o dîm troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd yn apelio ar i bobl edrych ar eu camerâu cylch cyfyng
"Yr apêl ydi, os oes rhywun wedi gweld lori neu Land Rover a threlar a allai fod wedi dwyn yr anifeiliaid 'ma yn yr ardal i gysylltu."
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio hefyd ar i bobl yn ardaloedd Llangywer a Phencaenewydd i edrych ar eu camerâu cylch cyfyng.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019