Gostyngiad 'dramatig' mewn ymosodiadau cŵn ar dda byw
- Cyhoeddwyd
Mae "gostyngiad dramatig" wedi bod yn nifer yr ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn y gogledd, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Y llynedd fe gofnodwyd 49 achos i gyd gan swyddogion, sydd yn gwymp sylweddol o'r 129 achos yn 2018, a 106 achos yn 2017.
Dywedodd Rob Taylor, rheolwr Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru: "Cyn i'n tîm gael ei sefydlu yn 2013 doedd dim ffigyrau yn unlle yn y DU, felly nid oedd modd mesur gwir faint y broblem.
"Fe aethon ni ati ein hunain i fesur y ffigyrau hyn ac fe gawsom sioc o weld yr hyn gafodd ei ddarganfod. Fe welson ni fod y ffigyrau hyn yn cael eu hail-adrodd drwy'r DU ar ôl gofyn i luoedd eraill wirfoddoli i gadw cofnod.
"Ers hynny rydym wedi delio gyda llawer o droseddau erchyll lle mae anifeiliaid wedi eu rheibio a chŵn wedi eu lladd o ganlyniad, sy'n gwbl annerbyniol."
Aeth y tîm ati i fynd i'r afael a'r broblem gan gydweithio gyda'r undebau amaeth i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon i berchnogion da byw, a pherchnogion cŵn hefyd.
Ychwanegodd Mr Taylor: "Mae hyn yn fater o geisio newid agweddau perchnogion cŵn, ac nid am geisio erlyn pobl trwy'r llysoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017