Dŵr gwastraff yn amlygu ble mae achosion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
corona

Gall tua 20% o bobl Cymru sydd wedi'u heintio â Covid-19 fod yn ei gario heb fod â symptomau, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae tîm dan arweiniad yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol wedi bod yn cofnodi'r feirws trwy'r system trin carthion, yn y gobaith o allu adnabod rhybuddion cynnar cyn y don nesaf o achosion.

Hyd yma, meddai, mae nifer y gronynnau Covid-19 yn y carthion mewn dŵr gwastraff "yn wirioneddol uchel yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru, sy'n awgrymu bod nifer fawr o achosion ar hyn o bryd".

Ond mae'r niferoedd "yn wirioneddol isel" mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, "sy'n awgrymu bod bron dim Covid-19 o blith y boblogaeth".

Dywed y tîm fod eu canfyddiadau'n cyd-fynd â'r hyn oedd i'w ddisgwyl, yn sgil nifer yr achosion sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Gall yr ymchwil gyfrannu at lywio polisïau'n ymwneud ag adolygu'r cyfyngiadau presennol.

Ers dau fis, mae'r gwyddonwyr ym Mangor wedi derbyn samplau o weithfeydd trin dŵr o bob rhan o Gymru gan obeithio casglu gwybodaeth i geisio dangos i ba raddau mae'r boblogaeth wedi'i heintio.

"Rydan ni eisiau deall ble a phryd mae heintiadau Covid-19 yn digwydd," meddai'r Athro Jones.

"Mae'n bwysig i ddeall faint o achosion sydd yn y wlad, ond mae hefyd yn bwysig i ddeall faint o gludwyr asymptomatig sydd yna.

"Nhw yw'r bobl all fod â symptomau ysgafn iawn neu ddim symptomau o gwbl. Gallan nhw fod yn ffynhonnell haint pwysig iawn o fewn y gymuned."

Arbenigedd

Mae'r tîm ag arbenigedd o ran olrhain feirysau fel Norovirus drwy'r system carthion. Mae'n ffordd syml, effeithiol a chymharol rad i gasglu gwybodaeth ynghylch mwyafrif y boblogaeth.

"Yn Nghymru mae tua 75% o'r boblogaeth â chysylltiad â 21 o weithfeydd Dŵr Cymru," meddai'r Athro Jones. "Rydan ni'n gallu samplo'r rheiny o fewn diwrnod a chael canlyniadau'r diwrnod canlynol.

"Mae'r data cyntaf yn cadarnhau fod casgliadau astudiaethau eraill ar draws y byd hefyd yn wir yma yng Nghymru, sef bod 20%, ac o bosib hyd at 40% o'r boblogaeth fwy na thebyg wedi'u heintio â Covid-19 yn ddiarwybod.

"Mae hyn yn debyg i'r amcangyfrifon o longau pleser fel y Diamond Princess, ble roedd yn hawdd olrhain symptomau pob teithiwr."

Mae'r data hefyd, meddai, yn cyd-fynd â chasgliadau clinigol byrddau iechyd Cymru.

"Mae'n cynnig hyder nad ydyn ni'n colli cludwyr asymptomatig sy'n symud o fewn ein poblogaeth, y super spreaders fel maen nhw'n cael eu galw, ac ydyn nhw'n creu risg."

"Mae'r samplau'n gallu dadansoddi ardaloedd mawr a chanolbwyntio ar ardaloedd llai - trefi unigol, neu rannau penodol o ddinas - ac fe allai olrhain newidiadau yn y feirws.

"O edrych ar gôd genynnol y feirws, gallen ni weld os oes gan wahanol rannau o Gymru wahanol ardaloedd sy'n cael eu heintio gyda gwahanol straeniau o'r feirws."

Mae potensial i'r ymchwil helpu ddarogan tueddiadau a rhoi amser i'r GIG baratoi petai ton newydd o achosion, meddai, gan fod y feirws yn ymddangos o fewn dŵr gwastraff "efallai wythnos neu ddwy cyn [i glaf] arddangos symptomau".

"Gall hynny roi pythefnos i ni fonitro os yw Covid-19 yn cynyddu neu'n lleihau o fewn y boblogaeth cyn iddo daro'r ysbytai."

Mae'r Athro Jones yn pwysleisio bod dim risg i'r amgylchedd yn sgil presenoldeb yr haint mewn dŵr gwastraff.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynnig ymchwil wedi'i rannu gyda'r Grŵp Cynghori Technegol ac rydym wrthi'n trafod gyda'r arweinydd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor i drafod sut y gall y data gyfrannu at ein dealltwriaeth o'r feirws."