Fersiwn newydd o gân enwog i ddiolch i weithwyr allweddol
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Bryn Terfel, Mererid Hopwood a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi recordio fersiwn newydd o un o ganeuon enwocaf Cymru er mwyn diolch i weithwyr allweddol am eu gwaith yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Mae'r Prifardd Mererid Hopwood wedi ysgrifennu geiriau newydd i Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech fydd i'w clywed am y tro cyntaf ddydd Iau fel rhan o Ddiwrnod Arwyr Cymru BBC Cymru.
Y clarinetydd Lenny Sayers sydd wedi creu'r trefniant newydd o'r gân ar gyfer aelodau eraill y gerddorfa i'w perfformio adref.
'Trefniant eithaf arwrol'
"Gan ei fod yn ymwneud ag arwyr modern Cymru, fe benderfynais wneud fy nhrefniant yn eithaf arwrol," meddai Mr Sayers.
"Mae ffanfferau'r adran bres yn gwneud sŵn gyda'r adran chwythbrennau yn fwy ysgafn gyda mwy o naws hwyl am y peth."
Fe ofynnwyd i Syr Bryn gymryd rhan gan fod y gerddorfa fod i berfformio gyda fe yn y Royal Albert Hall fis diwethaf.
Fe gytunodd ac awgrymodd ofyn i Mererid Hopwood ddarparu geiriau newydd i adlewyrchu'r argyfwng.
"Gan fy mod i'n methu â dweud diolch trwy berfformio'n gyhoeddus ar hyn o bryd, roedd y fideo yma yn ffordd i mi allu cydnabod arwyr ledled Cymru, sy'n gweithio i wneud gwahaniaeth yn ystod yr argyfwng," meddai Syr Bryn.
Recordiodd ei gyfraniadau sain a fideo o'i ystafell gerddoriaeth gartref, gydag aelodau o'r gerddorfa yn recordio eu rhannau nhw o'u cartrefi hefyd.
'Rhaid i'n blaenoriaethau newid'
Prif neges penillion ddwyieithog y Prifardd ydy y dylem ddiolch i weithwyr allweddol rŵan yn ystod yr argyfwng, ac ymhell ar ôl i'r argyfwng ddod i ben.
"Rwy'n credu bod y dôn yn fwy cofiadwy na'r geiriau," meddai Dr Hopwood.
"Mae wedi bod yn gyfnod rhyfedd ond rwy'n mawr obeithio nad yw'r clapio yn arwynebol a phan fydd wedi gorffen bod yn rhaid i'r teimlad o ddiolchgarwch aros gyda ni a bydd yn rhaid i'n blaenoriaethau newid."
Bydd y fersiwn newydd yn cael ei chwarae am y tro cyntaf am 11:00 ddydd Iau ar Radio Cymru a Radio Wales.
Arwyr Gwir ein Gwlad
Heroes of the Heart
Wele Gymru'n brysio heno,
dod yn un i guro dwylo,
anrhydeddu'r llu diflino:
arwyr gwir ein gwlad;
hear each Thursday our thanksgiving,
hear what Cymru's hands are saying,
hear a song that's made for praising
heroes of the heart.
Diolch am eu dewrder,
am eu gofal tyner,
diolch sydd a diolch fydd
o nawr hyd ddiwedd amser;
let our hearts for now, forever,
know this feeling and remember
these, the heroes strong and tender:
Diolch yw ein cân.
Pan ddaw'r haul ar fryniau eto
a dim sôn am guro dwylo,
bydd fy nghalon innau'n cofio
arwyr gwir ein gwlad;
when tomorrow's world is better,
though the cheering is no longer,
let the diolch last forever:
heroes of our heart.
Diolch am eu dewrder,
am eu gofal tyner,
diolch sydd a diolch fydd
o nawr hyd ddiwedd amser;
let our hearts for now, forever
know this feeling and remember
these, the heroes strong and tender:
Diolch yw ein cân.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020