Cyfansoddi emyn yr ynysu yn sgil haint coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Emyn yr Ynysu yn denu cannoedd o wylwyr

"Rhyw emyn 'nes i greu i'w rannu ar dudalen Facebook y capel oedd o i ddechrau, ac ers hynny mae cannoedd wedi edrych ar y fideo," meddai Euryn Ogwen Williams.

Ers i'r cyfyngiadau ddod i rym mae capeli Bethel, Penarth a Tabernacl, Y Barri, fel nifer o eglwysi eraill, wedi bod yn cynnal gwasanaethau byw ar Facebook, ond yn ychwanegol i hynny maen nhw wedi bod yn rhoi deunyddiau ychwanegol i ddiddanu'r gynulleidfa ar ddydd Mercher.

"Un o gyfraniadau tudalen Meddyliau Mercher oedd yr emyn - digwydd bod 'nes i ofyn i un o'n haelodau hynaf, Carys Evans sy'n 95, beth oedd ei hoff emyn.

"Mae hi'n gyn-organydd ac fe ddywedodd mai'r dôn Pembroke oedd ei dewis - tôn ry'n wedi ei chysylltu â'r geiriau 'Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod' a rywsut wrth feddwl am hynny mi ddaeth geiriau'r emyn yma i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Euryn Ogwen Williams mewn cyfweliad cynharach â BBC Cymru

Ychwanegodd Mr Williams: "Deud hi fel y mae y mae'r emyn 'Holl dristwch y colledion sydd, Yn ofid ac yn herio'n ffydd' ond mae yna obaith hefyd - 'Agorir drysau yn eu tro, Cawn ailgysylltu yn ein bro, A dechrau llawenhau' - a'r cwestiwn yn y trydydd pennill yw a fydd y cyfnod clo wedi newid ein ffordd o fyw?

"Wedi i mi sgwennu'r geiriau, dyma'r gantores Sian Meinir sy'n aelod gweithgar yng nghapel Bethel, Penarth yn eu canu a'u rhannu ar YouTube ac mae wedi cael ymateb gwych."

'Yn fwy gweithgar fel capel'

Nid dyma'r emyn cyntaf i Mr Williams ei gyfansoddi.

"Dwi wedi cyfansoddi nifer ar gyfer digwyddiadau yn y capel ond does 'na'r un wedi cael cymaint o sylw â hwn, hynny mae'n debyg oherwydd y cyfnod yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd," meddai.

"Mae'r cyfnod yma, rhywsut, wedi'n gwneud yn fwy gweithgar fel capel - ac mae'n bwysig cadw cysylltiad a diddanu ein gilydd.

"Mae cysylltu â'n gilydd yn ddigidol yn ffenomen ddiddorol - mae'n rhoi cyfle i ni dyfu fel eglwysi a dyna sydd i fod i ddigwydd.

"Ry'n yn gwybod nad yw pawb yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ond mae 'na ddulliau eraill o gysylltu - ac mi fyddwn fel eglwys yn ebostio ac yn ffonio ein gilydd hefyd.

"Mae'r cyfan wedi bod yn gam positif a dwi'n falch os yw'r emyn yn gysur i rywun arall."