Y seiciatrydd Dr Dafydd Alun Jones wedi marw yn 89 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiciatrydd clinigol Dr Dafydd Alun Jones wedi marw yn 89 oed.
Bydd y gŵr o Dalwrn, Ynys Môn, yn cael ei gofio am ei waith gyda dioddefwyr alcohol a chyffuriau a chyn-filwyr fu'n dioddef o gyflwr PTSD.
Bu'n ymgynghorydd seiciatryddol yn Ysbyty Seiciatryddol Gogledd Cymru yn Ninbych tan i'r sefydliad gau yn 1995.
Yno fe sefydlodd unedau arbenigol ar gyfer trin pobl oedd yn gaeth i alcohol a chyffuriau.
'Mae ei waddol yn parhau'
Ef oedd sefydlydd Cyngor Gogledd Cymru ar Alcohol yn y 70au cynnar, wnaeth arwain at sefydlu CAIS.
Bu'n gadeirydd a'r CAIS - elusen sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau, neu sy'n dioddef â phroblemau iechyd meddwl.
Wrth gofio amdano dywedodd Wynford Ellis Owen, oedd wedi cydweithio ag ef ac yn ei adnabod ers dros 30 mlynedd: "Roedd e'n gymeriad unigryw, yn Gristion pybyr ac yn seiciatrydd talentog.
"Roedd e'n arloeswr mewn llawer ffordd - roedd e'n ymwybodol o broblemau alcohol a chyffuriau yn gynnar iawn yn ei yrfa a bu'n annog llywodraethau i weithredu. Yn wir roedd e ar y blaen yn llywio a chynghori.
"Fe wnaeth ddiwrnod da o waith dros eraill, rhoddodd ei hun dros eraill - dyna'r math o foi oedd o a does dim pris ar hynna - mae ei waddol yn parhau."
Urddo gan yr Orsedd
Fe dreuliodd ran fawr o'i yrfa yn rhoi cymorth i filwyr a fu'n dioddef o gyflwr PTSD ar ôl Rhyfel y Gwlff.
Mewn cyfnod o 10 mlynedd mae'n dweud iddo drin dros 2,000 o gyn-filwyr oedd yn dioddef o'r cyflwr.
Bu'n gyfrannwr cyson i raglenni Cymraeg ar radio a theledu.
Cafodd ei urddo i'r wisg wen yn yr Orsedd a bu'n ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Ninbych yn yr 1970au.
Roedd hefyd wedi cymhwyso fel peilot.
Mae'n gadael ei bartner, Theressa, pump o blant a saith o wyrion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2014