Diffyg gofal iechyd i filwyr wrth gefn

  • Cyhoeddwyd
MilwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae seiciatrydd gyda phrofiad o weithio gyda milwyr sydd yn dioddef o PTSD yn honni bod na ddiffyg darpariaeth gofal iechyd meddwl i filwyr yn y lluoedd arfog wrth gefn.

Mae'n gwneud ei sylwadau wrth i Lywodraeth Prydain ddechrau ar y broses o newid strwythur y fyddin drwy recriwtio mwy o filwyr wrth gefn yn lle milwyr llawn amser.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd Dr Dafydd Alun Jones ei fod wedi sylwi bod iechyd cyffredinol milwyr wrth gefn wedi dioddef ar ol Rhyfel y Gwlff yn y 1990au. Ac mae'n dweud nad oes yna fwy o gefnogaeth erbyn hyn.

"Dw i ddim yn meddwl bod y sefyllfa wedi newid fawr ddim. Mae'r milwyr dw i'n gweld rwan o bethau diweddarach, maen nhw yn dioddef yr un fath ac ychydig iawn o help gwir ymarferol maen nhw'n ei gael."

Profiadau milwyr

Ond dyw yr Uwch Gapten Martin Green, sydd yn aelod o'r fyddin wrth gefn, ddim yn cytuno.

"..Mae mwy o arian nac erioed yn mynd i gefnogi milwyr sydd yn dod nôl gyda phroblemau. Wnaeth dau swyddog iechyd meddwl nyrsio o'r uned yma fynd mas i Afghanistan am dri mis ac mae sawl nyrs a pherson mas 'na llawn amser yn edrych ar ôl anghenion y milwyr sydd mas 'na."

Mae'r Uwch Gapten Kevin Pritchard yn cydnabod bod y gwaith yn gallu rhoi straen ar fywyd person. Er hynny mae'n teimlo ei fod o wedi cael digon o help.

"O safbwynt personol, pan ddesh i adra o Kosovo a pan ddesh i adra o Afghanistan, gesh i rwbath tebyg i fis o amser i ffwrdd oddi wrth y gwaith lle roedd y fyddin dal i roi cyflog i fi i ddod yn ol a intergreatio nôl mewn i civilian life. So fyswn i yn deud bod y gefnogaeth yn ddigon fel mae o ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn darparu gofal seiciatryddol i filwyr tra eu bod nhw dramor yn gwasanaethu a hefyd pan maen nhw'n dychwelyd adref.