Diffyg bonws i staff dros dro archfarchnad yn 'warth'

  • Cyhoeddwyd
TescoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argyfwng wedi bod yn gyfnod prysur i archfarchnadoedd, sydd wedi gorfod recriwtio rhagor o staff

Mae un o brif archfarchnadoedd y DU wedi cael ei beirniadu am gynnig bonws i staff, ond nid rheiny sydd wedi'u cyflogi i helpu yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Dywedodd undeb y GMB bod penderfyniad Tesco yn "warth", gan alw ar y cwmni i ailystyried.

Yn ôl un sydd wedi dechrau gweithio mewn un o siopau'r cwmni yn ne Cymru, mae staff newydd yn aml yn gweithio shifftiau nos ac yn gwneud yr un gwaith ag aelodau staff eraill.

"Dydw i ddim yn gweld pam y dylen ni gael ein trin yn wahanol," meddai.

Dywedodd cwmni Tesco ei fod yn "ddiolchgar iawn" i'w weithwyr dros dro a'u bod yn "chwarae rôl bwysig" yn y busnes.

'Gwahaniaethu'

Mae'r archfarchnad yn talu bonws o 10% i gyflog staff rhwng 6 Mawrth a 30 Mai "i gydnabod eu hymdrechion anhygoel".

Ond ni fydd staff dros dro sydd wedi'u cyflogi ers dechrau'r pandemig yn cael tâl ychwanegol.

Dywedodd uwch-drefnydd y GMB yng Nghymru, Mike Payne: "Mae'r ffaith fod cyflogwr wedi gwahaniaethu rhwng grŵp o weithwyr yn y ffordd yma, yn ystod y pandemig, yn warth.

"Mae gweithwyr yn peryglu eu hiechyd ac iechyd eu teuluoedd wrth ateb y galw i helpu yn ystod yr argyfwng.

"Mae Tesco angen gweithredu'n gyflym er mwyn unioni'r cam."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tesco ei fod yn "ddiolchgar iawn" am gyfraniad staff dros dro

Dywedodd un dyn sydd wedi dechrau gweithio mewn un o siopau Tesco yn ne Cymru yn ystod yr argyfwng na fydd yn derbyn ceiniog yn dilyn cyhoeddiad y cwmni.

"Ry'n ni wedi gwneud yr un gwaith, os nad mwy o waith na mwyafrif y staff parhaol," meddai'r dyn, sydd eisiau aros yn ddienw.

"Rydyn ni'n gweithio shifftiau nos fel arfer, am £8.72 yr awr, a £1 ychwanegol yr awr os ydy hi'n shifft nos.

"Dydy 10% ychwanegol efallai ddim yn ymddangos fel llawer o arian i rai, ond rydw i yn ei weld fel diolch am ein gwaith caled, ymroddiad ac amser.

"Dydyn ni ddim yn cael ein trin yn gyfartal. Dydw i ddim yn gweld pam y dylen ni gael ein trin yn wahanol."

'Rôl allweddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Mae ein cydweithwyr dros dro yn parhau i chwarae rôl allweddol yn ein busnes, yn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael yr holl fwyd a'r eitemau allweddol sydd eu hangen arnynt.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw, a'n holl weithwyr, am eu cyfraniad yn y cyfnod digynsail yma."