Craig Bellamy: Cyn-gapten Cymru yn sôn am ei frwydr gydag iselder

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Bellamy bellach yn hyfforddi tîm dan-21 Anderlecht yng Ngwlad Belg

Mae cyn-ymosodwr Cymru, Craig Bellamy, wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis am iselder ac y bu'n cymryd meddyginiaeth ers tair blynedd.

Dywedodd Bellamy, chwaraeodd i glybiau fel Lerpwl, Newcastle United a Celtic, bod anafiadau wedi gwneud y cyflwr yn waeth.

"Am y tair i bedair blynedd diwethaf, dwi wedi cael diagnosis am iselder. Dwi'n ddyn isel a gallai ddim osgoi hynny," meddai mewn cyfweliad gyda Sky Sports.

"Dwi wedi bod ar feddyginiaeth ers tair blynedd a dyma'r tro cyntaf i mi siarad am y peth.

"Ni helpodd yr anafiadau. Roedd hi'n anodd iawn dod dros yr anafiadau. Nid dyma be' oeddwn 'di ddisgwyl o fy ngyrfa bêl-droed.

"Yn ystod fy ngyrfa roedd fy iselder yn llawer gwaeth, yr ochr emosiynol - byddwn yn dod gartref a peidio siarad am dridiau.

"Roedd gen i wraig, teulu ifanc ac yn llythrennol fyddwn i ddim yn siarad.

"Byddwn yn cloi fy hyn mewn ystafell byddwn yn mynd i'r gwely ar ben fy hun. Dyna'r unig ffordd yr oeddwn yn gallu delio gydag iselder."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Craig Bellamy bod cyfres o anafiadau yn ystod ei yrfa wedi gwneud yr iselder yn waeth.

Chwaraeodd Bellamy 78 gwaith dros Gymru ac fe sgoriodd 81 gôl mewn bron i 300 gêm yn Uwchgynghrair Lloegr.

Fe'i amharwyd gan gyfres o anafiadau drwy gydol ei yrfa cyn ymddeol yn 34 oed ar ddiwedd tymor 2013-14 ac yntau wedi dychwelyd i chwarae i glwb ei ddinas enedigol, Caerdydd.

"Mae pêl-droed m'ond yma am gyfnod byr, a dyna pam 'da chi'n gweld lot o bêl-droedwyr, yn sicr mwy o'n cenhedlaeth ni, yn dioddef," ychwanegodd Bellamy, wrth sgwrsio yn ystod wythnos i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.

"Dwi erioed wedi siarad am y peth, tydw i ddim yn teimlo bod o'n fusnes i neb arall, dwi'n breifat iawn yn yr hyn dwi'n gwneud."

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.