Tân mewn parc diwydiannol yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
TWITTER | NWPWREXHAMRURALFfynhonnell y llun, TWITTER | NWPWREXHAMRURAL
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 40 o ddiffoddwyr tân eu galw i barc diwydiannol Redwither fore Sadwrn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda thân mewn parc diwydiannol yn Wrecsam ddydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd y tân yn uned ailgylchu Ash Waste Management yn Redwither am ychydig cyn 04:30 fore Sadwrn.

Bellach mae tua 20 o ddiffoddwyr tân ar leoliad, gan gynnwys saith peiriant tân a jetiau dŵr.

Mae dau gloddiwr yn cael eu defnyddio i geisio symud peth o'r deunydd i ffwrdd o'r fflamau.

Mae tanceri yn cael eu defnyddio hefyd i bwmpio unrhyw ddŵr halogedig sy'n rhedeg i ffwrdd.

Mae pobl sy'n byw yn yr ardal yn cael eu cynghori i gadw drysau a ffenestri ar gau ac i osgoi unrhyw fwg.