Nam recordio'n colli tystiolaeth am ymosodiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhai dioddefwyr yn gorfod ailrecordio'u tystiolaeth gan na chafodd y cyfweliadau gwreiddio eu recordio'n llawn

Bydd dioddefwyr ymosodiadau rhyw yn gorfod ail-roi'u tystiolaeth oherwydd problem gydag offer recordio canolfan arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod offer recordio yng Nghanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhyw "wedi datblygu nam".

Yn dilyn adolygiad, daeth i'r amlwg bod cyfweliadau chwe dioddefwr heb eu recordio'n llawn, ac mae'r llu'n dweud fod swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'r unigolion hynny.

Mae'r cwmni oedd yn gyfrifol am osod yr offer, Capita, wedi ymddiheuro i'r dioddefwyr dan sylw.

Dywed y llu fod dros 7,000 o gyfweliadau wedi eu cwblhau'n gywir gan ddefnyddio adnoddau'r ganolfan.

'Anrhagweladwy'

"Doedd y nam ddim yn un oedd modd ei ragweld ac fe ddaeth i'r amlwg yn gynnar," meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Danny Richards. "Fodd bynnag, bydd yn rhaid cynnal nifer o gyfweliadau eto.

"Yn dilyn adolygiad, rydym ar ddeall fod hyn wedi effeithio ar chwe dioddefwr. Mae swyddogion wedi'u hyfforddi'n arbennig yn eu cefnogi drwy'r broses yma."

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn uwchraddio offer recordio ers Tachwedd 2019.

Cafodd offer recordio newydd ei osod mewn dalfeydd, canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhyw a lleoliadau eraill ar draws de Cymru ym mis Mawrth.

Dim ond yn y ganolfan atgyfeirio yng Nghaerdydd y daeth nam i'r amlwg, yn ôl Heddlu'r De.

Ymddiheuro dros 'ofid ychwanegol'

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Capita: "Roedd y nam mewn un ddyfais ac fe wnaethon ni ddatrys y mater cynted ag y daeth i'n sylw.

"Rydym yn cymryd camau i sicrhau na allai'r sefyllfa yma godi byth eto ac fe wnawn ni barhau i fonitro perfformiad gyda'n cleient.

"Rydym yn ymddiheuro i'r rhai sydd wedi eu heffeithio am unrhyw ofid ychwanegol sydd wedi ei achosi."