Agor a gohirio cwest wedi tân mewn tŷ ger Corwen

  • Cyhoeddwyd
Bryneglwys

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos dyn a fu farw wedi tân yn ei gartref yn Sir Ddinbych.

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun fod Paul McKee, o bentref Bryneglwys ger Corwen, yn 63 oed ac yn ddiwaith.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn ei gartref wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw yno nos Wener, 15 Mai.

Cafodd yr heddlu a thri chriw o ddiffoddwyr o Wrecsam a Chorwen eu galw i'r digwyddiad ychydig wedi 21:00.