Peilot wedi glanio heb ganiatâd 'i fynd i'r traeth'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth awyren breifat lanio ar faes awyr milwrol ar Ynys Môn heb ganiatâd am fod y peilot "eisiau mynd i'r traeth".
Fe laniodd y dyn ym maes awyr yr Awyrlu Brenhinol yn Y Fali ddydd Llun pan oedd y ganolfan ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Roedd wedi hedfan o faes awyr Fairoaks yn Surrey cyn glanio a mynd at rhan o'r Fali oedd yn agos ar yr arfordir.
Roedd criwiau tân a diogelwch Y Fali wedi credu'n wreiddiol ei fod wedi gorfod glanio oherwydd argyfwng.
Ond pan aethon nhw ato fe ddywedodd wrthyn nhw ei fod "wedi hedfan o Lundain er mwyn mynd i'r traeth".
'Y peilot wedi cael Covid-19'
Cafodd adroddiad ar y digwyddiad ei gyhoeddi yn Defence Aviation Safety Occurrence Report (DASOR), ac mae'n dweud: "Am 12:50 fe wnaeth yr awyren alw tŵr rheoli'r RAF yn Y Fali sawl gwaith cyn glanio ar lanfa 19 a pharcio ger y traeth.
"Dywedodd y peilot ei fod wedi hedfan o Lundain i fynd i'r traeth. Pan ddywedwyd wrtho fod y safle yn faes awyr milwrol a bod rheolau coronafeirws yn dal mewn grym yng Nghymru, atebodd fod 'hynny'n OK gan ei fod wedi ei gael o ddeufis yn ôl'.
"Dywedodd y peilot ei fod wedi dod o hyd i'r maes awyr ar Google Earth ac wedi nodi o Wikipedia fod maes awyr Ynys Môn ar agor i awyrennau sifil."
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf heddiw
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Cafodd y peilot ei archwilio ac fe gafodd wybod na fyddai'n medru gadael y maes awyr tan iddo ailagor y bore canlynol.
Ond dywedodd y peilot ei fod yn gadael beth bynnag, ac fe benderfynodd y staff i beidio rhwystro'r awyren rhag gadael.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RAF: "Gallwn gadarnhau fod awyren sifil PC-12 wedi glanio ar lanfa gaeedig yn Y Fali heb ganiatâd ar 25 Mai.
"Er bod hyn yn afreolaidd, barnwyd nad oedd bygythiad i staff y ganolfan nac i'r cyhoedd. Mae'r digwyddiad wedi ei adrodd i'r Awdurdod Hedfan Sifil."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020