Camau bychan Abertawe a Chaerdydd i ailddechrau ymarfer

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae clybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd wedi dychwelyd i ymarfer yr wythnos hon gyda'r Bencampwriaeth yn gobeithio ailddechrau ym mis Mehefin.

Ond bu newidiadau mawr i sesiynau ymarfer o'i cymharu a'r ffordd yr oedd y chwaraewyr a chlybiau yn hyfforddi cyn y daeth y tymor i ben mor sydyn ym mis Mawrth oherwydd argyfwng coronafeirws.

Wedi i gyfyngiadau yn Lloegr gael eu llacio, bu'n rhaid i'r clybiau ofyn am eglurder ynglŷn â pha weithgareddau a ganiateir yn eu canolfannau ymarfer o dan reoliadau Cymreig.

Bu Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Chynghrair Bêl-Droed Lloegr cyn y bu cyhoeddiad bod modd i'r clybiau ddychwelyd i'r meysydd ymarfer.

Mae profion cyson ar gyfer coronafeirws yn rhan o brotocolau'r Gynghrair Bêl-Droed.

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Harris, yn falch i fod yn ôl ac yn ddiolchgar am y gwaith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod modd gwneud hynny'n ddiogel.

Dywedodd eu bod yn dilyn canllawiau'r Gynghrair yn ogystal a rhai llywodraethau Cymru a'r DU gan gynnwys pellhau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel.

Gyda'r holl fesurau mewn lle mae'n cydnabod bod "teimlad gwahanol" wedi bod i'r wythnos gyntaf yn ôl yn ymarfer.

"Mae'r chwaraewyr yn troi lan yn gwisgo eu cit ymarfer, gyda'u 'sgidiau eu hunain a'u diodydd eu hunain," meddai Harris.

"Mae'r chwaraewyr yn sylweddoli mai dyna yw'r normalrwydd ar hyn o bryd.

Dysgu i werthfawrogi

"Mae nhw'n cael eu prawf Covid-19 wrth iddynt ddod drwy'r prif giatiau ac yna mae nhw'n mynd yn syth i'r maes ymarfer, lle mae nhw yn ymarfer mewn grwpiau llai.

"Ar ôl gorffen sesiwn 90 munud mae nhw'n mynd yn ôl i'w ceir ac yn gadael.

"Dwi'n meddwl be' mae'r misoedd diwethaf wedi dysgu i ni yw gwerthfawrogi'r hyn 'da ni yn ei wneud."

Mae rheolwr Abertawe, Steve Cooper, hefyd yn sôn am bwysigrwydd dilyn protocolau ond bod hynny wedi "dod â phawb at ei gilydd".

Fel ,mae Cooper yn hapus gyda ffitrwydd y chwaraewyr wedi'r seibiant, gyda'r clybiau yn gosod rhaglenni ymarfer i bawb yn ystod y cyfyngiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Cooper (chwith) a Neil Harris yn eu tymhorau cyntaf fel rheolwyr y clybiau Cymreig

"Wrth gwrs mae 'na dipyn o ffordd i fynd cyn y bydde ni'n chwarae gemau eto ac mae 'na lot o waith i'w wneud," meddai Cooper.

"Ond 'dan ni'n ymarfer yn galed ac yn edrych ymlaen i'r cam nesaf."

Y cam nesaf fydd ehangu'r sesiynau i gynnwys grwpiau mwy ac mae Cooper yn disgwyl i hynny ddigwydd yn gynnar yr wythnos nesaf.

Does dim sicrwydd hyd yma pryd y bydd y tymor yn ail ddechrau - mae 20 Mehefin wedi ei grybwyll.

"'Dan ni yn awyddus i chwarae," meddai Cooper.

"Ar ôl gweld gymaint mae'r chwaraewyr wedi cael eu hysgogi ar ôl dychwelyd yr wythnos hon, mi fasa ni yn chwarae fory tase ni'n gallu - gorau po gyntaf.

"Mae hi wedi bod yn adeg ofnadwy i'r wlad ac i'r byd hefyd."

Mae chwaraewyr a staff Abertawe wedi cael eu profi deirgwaith yn ystod yr wythnos gyntaf ac mae Cooper yn disgwyl y bydd profion yn digwydd am beth amser.