Y llenor, dramodydd a nofelydd, Siôn Eirian wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Siôn Eirian
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Eirian yn ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, ag yntau ond yn 24 oed

Mae'r prifardd Siôn Eirian wedi marw yn 66 oed yn dilyn salwch byr.

Roedd yn ddramodydd, sgriptiwr a nofelydd llwyddiannus, ac fe enillodd goron Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol.

Cafodd ei eni yn Hirwaun, ond fe'i magwyd yn Mrynaman ac yna yr Wyddgrug.

Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1971, cyn cipio'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd saith mlynedd yn ddiweddarach.

Yn 24 oed ar y pryd, mae'n parhau i fod ymhlith yr ieuengaf erioed i ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.

'Ysgrifennwr unigryw a thalentog'

Bu'n llenor hynod gynhyrchiol yn pontio sawl cyfrwng, gan gyfansoddi gweithiau gwreiddiol yn y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer y llwyfan, radio a theledu yn ogystal â sgriptio addasiadau a chyfieithiadau yn y ddwy iaith.

Yn eu plith roedd y ddrama lwyfan 'Wastad ar y Tu Fas', cyfres dditectif gyntaf S4C 'Bowen a'i Bartner', a 'Gadael Lenin' a ysgrifennodd ar y cyd gydag Endaf Emlyn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pen Talar ymhlith y cyfresi teledu a ysgrifennodd Siôn Eirian

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, fod Siôn Eirian yn "lenor a sgriptiwr oedd a llais ac arddull gwbwl unigryw".

"Mi wnaeth o gyfraniad hollbwysig i adran ddrama BBC Cymru a bu'n un o hoelion wyth Pobol y Cwm am flynyddoedd lawer - roedd yn sgriptiwr naturiol a threiddgar oedd yn gwybod yn reddfol pa storiau fyddai'n apelio at y gynulleidfa," meddai.

"Anfonwn ein cydymdeimlad at y teulu cyfan."

Mae nifer o fewn y byd actio a pherfformio ymhlith y rheiny sydd wedi rhoi teyrnged i Siôn Eirian a chydymdeimlo â'i wraig, Erica, ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan eisteddfod

Cafodd ei ddisgrifio gan yr actores Gwenfair Vaughan fel "person hyfryd a thalentog", a dywedodd Theatr Bara Caws y byddai "colled enfawr ar ei ôl".

Ychwanegodd Huw Marshall: "Mor flin i glywed Erica, ges i lot fawr o hwyl yn ei gwmni. Colled enfawr."

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Er mae ym myd y ddrama lwyfan roedd cyfraniad mwyaf Siôn, roedd hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu'r gyfres Pen Talar i S4C ac wrth gwrs am y ffilm ryngwladol Gadael Lenin.

"Gall Cymru ddim fforddio colli ysgrifenwyr unigryw a thalentog fel Siôn. Byddwn yn gweld ei golli."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd Manon Wyn Williams, darlithydd mewn drama a sgriptio ym Mhrifysgol Bangor ei bod yn "hynod drist" o glywed am ei farwolaeth.

"Cefais y fraint o astudio ei weithiau arloesol, megis Wastad ar y Tu Fas, fel rhan o'm doethuriaeth a dod i'w adnabod fel gŵr hynod fonheddig, annwyl a chefnogol iawn i rywun ar ddechrau ei yrfa," meddai. "Colled enfawr i theatr Gymraeg."