Dyn wedi'i gyhuddo yn dilyn achos o drywanu

  • Cyhoeddwyd
Castell Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad ar dir Castell Caerffili nos Iau

Mae dyn 23 oed o ardal Caerffili wedi cael ei gyhuddo wedi i ddyn arall gael ei drywanu ar dir Castell Caerffili.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad nos Iau yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi cael ei drywanu yn ei stumog.

Bydd y dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Llun wedi'i gyhuddo o glwyfo a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Yn wreiddiol cafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o achosi niwed corfforol difrifol.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn gafodd ei anafu yn y digwyddiad, sy'n 26 oed ac o ardal Caerffili, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.