Technoleg Machynlleth yn helpu brwydr yn erbyn Covid-19

  • Cyhoeddwyd
DulasFfynhonnell y llun, David Elliot
Disgrifiad o’r llun,

Mae oergelloedd solar Dulas yn cael eu defnyddio ar draws y byd

Fe allai cwmni o'r canolbarth chwarae rhan allweddol yn y frwydr fyd-eang yn erbyn coronafeirws.

Mae Dulas - sydd â'i bencadlys ym Machynlleth ym Mhowys - yn dylunio ac yn gwerthu oergelloedd pŵer solar, sy'n cadw brechlynnau ar y tymheredd cywir mewn rhannau anghysbell o'r byd.

Mae'r cwmni yn cyd-weithio gyda GAVI, y gynghrair brechlyn fyd-eang, ers blynyddoedd, gan allforio oergelloedd pŵer solar i lefydd yn Affrica, Asia a De America.

Mae'r dechnoleg yn hanfodol i gadw brechlynnau ar gyfer afiechydon fel polio a theiffoid yn oer mewn lleoliadau heb gyflenwad pŵer dibynadwy.

'Gwaith hollol hanfodol'

Er mwyn i'r brechlynnau fod yn hyfyw mae'n rhaid eu cadw rhwng 2C ac 8C o'r amser y cânt eu gwneud tan y pwynt y cânt eu defnyddio.

Mae hyn hefyd yn debygol o fod yn wir am unrhyw frechlyn Covid-19 yn y dyfodol.

Ers 2001 mae'r cwmni wedi gwerthu tua 15,000 o oergelloedd pŵer solar i 83 o wledydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gerallt Evans bod Dulas "mewn trafodaethau cyson ynglŷn â brechiad ar gyfer Covid-19"

Dywedodd Gerallt Evans, un o gyfarwyddwyr Dulas: "Maen nhw wedi mynd ar hyd y byd i gyd - maen nhw mewn rhai o'r gwledydd tlotaf yn y byd ac yn gwneud gwaith hollol hanfodol.

"Mae'r brechiadau angen cael eu cadw ar dymheredd isel yr holl ffordd o'r ffatri hyd nes bod y pigiad yn mynd i fraich y plentyn.

"Os nad yw hyn yn digwydd mae'r brechiad yn marw i bob pwrpas.

"Os ydyn nhw'n rhy oer maen nhw'n rhewi ac os yn rhy boeth maen nhw'n difetha, felly rhaid iddyn nhw aros o fewn y coridor cywir."

Sefydlwyd Dulas ym 1982 gan gyn-weithwyr yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen - gafodd ei sefydlu ger Machynlleth yn yr 1970au.

Ers hynny mae'r cwmni wedi datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ledled y byd.

Ffynhonnell y llun, GAVI
Disgrifiad o’r llun,

Trigolion pentref yn Benin yn dathlu cael un o oergelloedd Dulas

Guy Watson - un o gyd-sylfaenwyr Dulas - gafodd y syniad gwreiddiol am oergell oedd yn rhedeg ar bŵer solar tra roedd yn gweithio mewn parth rhyfel ym 1984. 

"Roeddwn i bant ar gyfnod sabothol ar adeg Band Aid a chefais fy hun yng nghanol parth rhyfel yn Eritrea a Tigray yn gweithio gyda'r rhaglen iechyd cyhoeddus," meddai.

"Roeddwn i mewn ysbytai maes, 70 metr o'r rheng flaen.

"Yno, roedd yn amlwg nad oedd storfa waed - a rhoddodd hynny'r syniad i mi o storio gwaed ac ynni solar, ac fe aeth pethau o f'yna mewn gwirionedd."

'Pobl ddeallus iawn'

Aeth Guy ymlaen i ddyfeisio'r oergell pŵer solar, ac mae'n falch o'r rôl y mae Machynlleth wedi'i chwarae - ac yn parhau i'w chwarae - yn y dechnoleg arloesol sy'n achub bywydau.

"Rwy'n credu bod yr ardal yma wedi bod yn ganolfan ragoriaeth erioed," meddai.

"Mae wedi denu grŵp eithaf ecsentrig o bobl, ac mae llawer o bobl ddeallus iawn yn yr ardal hon yng nghanol Cymru ac ry'n ni wedi gweithio gyda'n gilydd ac wedi creu pethau anhygoel ac rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, GAVI
Disgrifiad o’r llun,

Mae oergelloedd Dulas yn cael eu cludo ar draws y byd, fel yr un yma ym Managascar

Ddydd Iau mae prif weinidog y DU, Boris Johnson, yn cynnal uwchgynhadledd rithwir ar frechu byd-eang.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo £330m y flwyddyn am y bum mlynedd nesaf i gefnogi gwaith GAVI.

Os a phan gynhyrchir brechlyn Covid-19 bydd technoleg yr oergell solar o'r canolbarth yn hanfodol yn ôl Mr Evans o Dulas.

"Ry'n ni mewn trafodaethau cyson gyda GAVI ac Unicef ynglŷn â brechiad ar gyfer Covid-19," meddai.

"Os oes brechiad yn dod, mae'n debygol iawn y bydd angen y cold chain fel mae'n cael ei alw, felly ry'n ni'n gobeithio bod yn rhan o'r ymgyrch i wella'r byd o Covid hefyd."