Amddiffyn y gweinidog tai am benderfyniad cynllunio

  • Cyhoeddwyd
Argraff artistFfynhonnell y llun, Bellis Brothers Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun i adeiladu 132 o dai ar dir amaethyddol ger Yr Orsedd wedi cynddeiriogi pobl leol

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi amddiffyn y gweinidog tai Julie James wedi iddi ganiatáu cynllun am 132 o dai yn Yr Orsedd ger Wrecsam.

Mae Grŵp Ffocws Yr Orsedd yn dweud fod penderfyniad "rhyfeddol" y gweinidog i ganiatáu'r cais cynllunio yn groes i'r cod gweinidogol.

Fe wnaeth ymgyrchwyr hefyd gŵyn swyddogol yn erbyn yr Arolygiaeth Gynllunio am wyrdroi penderfyniad y cyngor lleol i wrthod y cais cynllunio'n wreiddiol.

Ond dywedodd y Prif Weinidog fod Ms James "wedi ymddwyn yn y ffordd gywir o'r cychwyn".

Gwrthod y cynllun gwreiddiol

Fe wrthododd Cyngor Wrecsam y cynllun gwreiddiol oherwydd pryderon am golli tir gwyrdd, y risg o lifogydd a rhybudd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am effaith y datblygiad ar wasanaethau meddygol.

Ond fe gafodd y penderfyniad ei wyrdroi ar apêl gan Lywodraeth Cymru wedi i'r gweinidog tai ddweud fod y galw am fwy o dai yn Wrecsam wedi rhoi pwysau "sylweddol" o blaid y cynllun.

Mae protestwyr wedi dadlau fod ei phenderfyniad wedi ei wneud "heb yr holl dystiolaeth", ac yn seiliedig ar y cynllun datblygu lleol gafodd ei farnu "fel un di-sail" ddeuddydd yn ddiweddarach.

Tir yn Yr Orsedd dan lifogyddFfynhonnell y llun, Rob Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed ymgyrchwyr fod llifogydd yn broblem yn yr ardal

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones: "Mae'r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i 132 o dai ar dir amaethyddol sydd mewn perygl o lifogydd, mewn ardal o dir gwyrdd ac yn groes i bolisïau'r llywodraeth ei hun yn rhyfeddol.

"Yn dilyn gwrthwynebiad llethol gan y gymuned, fe sylweddolodd Cyngor Wrecsam yr effaith negyddol y byddai'r datblygiad yn ei gael.

"Nid oes un polisi cynllunio lleol na chenedlaethol sydd yn cefnogi datblygiad o'r math yma.

"Yn y ffordd y bu iddi ddelio gyda'r mater yma mae tystiolaeth sydd yn dangos ei bod wedi torri'r cod gweinidogol, ac mae'n rhaid ei dwyn i gyfrif am hyn."

Julie James
Disgrifiad o’r llun,

Mae penderfyniad Julie James wedi cael ei amddiffyn gan y Prif Weinidog

Mewn llythyr at aelodau Grŵp Ffocws Yr Orsedd, dywedodd Mr Drakeford fod Ms James wedi ymddwyn yn y dull cywir wrth drafod yr achos a'i bod wedi derbyn "cyngor proffesiynol".

Ychwanegodd: "Tra rwyf yn gwerthfawrogi eich bod wedi eich siomi gyda phenderfyniad yr apêl cynllunio, nid wyf yn credu fod unrhyw reswm i ystyried fod achos o dorri'r cod gweinidogol wedi bod."

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn edrych ar y gŵyn.